Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr yr Adran Argyfwng ​

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar y cyd â’r Gwasanaeth Gwirfoddol arddangos cynllun peilot newydd a dweud diolch enfawr i’n holl Wirfoddolwyr yn yr Adran Argyfwng. Ymunodd y Gwasanaeth Gwirfoddol â’r Adran Argyfwng, Ysbyty Tywysoges Cymru ac ar ôl cymaint o ddiddordeb roedd yn falch o gael gwirfoddolwyr i ddechrau ar 23 Ebrill 2023. Mae’r gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth i gleifion, teuluoedd a gofalwyr trwy:

  • Darparu cwmnïaeth a chymorth digidol i gleifion gan eu galluogi i gysylltu â pherthnasau ac anwyliaid​
  • Rhoi adborth i staff, trosglwyddo negeseuon i adrannau eraill o fewn yr ysbyty​
  • Rhoi lluniaeth i gleifion, helpu yn ystod amseroedd bwyd trwy roi bwyd a diod (dan arweiniad staff) a chlirio ar ôl amser bwyd​
  • Siarad â chleifion ac ymwelwyr mewn ystafelloedd aros a rhoi gwybod i staff am unrhyw bryderon ​
  • Ailgyflenwi stoc ar drolïau, mewn baeau a stondinau taflenni gwybodaeth, rhoi cyngor am ble i ddod o hyd i gymorth a chyfarwyddiadau i gleifion a pherthnasau/cymdeithion​
  • Cyfeirio cleifion/ymwelwyr i rannau eraill o'r ysbyty a mynd gyda nhw lle bo'n briodol​
  • Annog a chynorthwyo cleifion, teulu, gofalwyr a ffrindiau i lenwi arolygon adborth

Mae’r prosiect Gwirfoddoli yn yr Adran Argyfwng yn cael ei redeg fel peilot i ddechrau, er mwyn deall effaith cymorth gwirfoddolwyr a sut mae’n ymwreiddio o fewn yr adran. Y cynllun wrth symud ymlaen yw efelychu’r cymorth gwirfoddol ar draws Adrannau Argyfwng eraill.​ ​ Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i’n Gwirfoddolwyr yn yr Adran Argyfwng a’n Staff Argyfwng am eu cefnogaeth a’u hymroddiad parhaus i wneud hyn yn llwyddiant……

Dilynwch ni: