Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr Da i Dyfu ​

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr 1–7 Mehefin yn gyfle gwych i ddweud diolch i bob un o’n gwirfoddolwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn ogystal â hynny, mae’n rhoi cyfle i arddangos y rolau y mae ein gwirfoddolwyr yn eu chwarae, eu heffaith wrth wella nid yn unig profiad cleifion ond hefyd cefnogi a chanmol rôl ein staff. Mae ein gwirfoddolwyr yn allweddol wrth gefnogi rhedeg y grŵp garddio therapiwtig drwy: ​

  • Cefnogi’r Therapydd Galwedigaethol a’r Technegydd Therapi Galwedigaethol i redeg y grŵp garddio therapiwtig “Da i Dyfu”

  • Rhyngweithio â chleifion 

  • Cynnal a chadw gerddi, cynnal a chadw gwelyau, gweithgareddau tymhorol gan gynnwys hau hadau, torri, plannu ac adnewyddu gwelyau

  • Darparu lluniaeth 

Dilynwch ni: