Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwr Cefnogi Teuluoedd Rhoddwyr Organau

Eleni, rydyn ni’n dathlu’r 39 fed Wythnos Gwirfoddolwyr, sy’n gyfle gwych i ddweud diolch i’r miliynau o wirfoddolwyr sy’n gwneud gwahaniaeth ledled y DU. Mae parodrwydd gwirfoddolwyr i roi o’u hamser, heb os, yn ysbrydoledig, ac mae’r stori wirfoddoli ganlynol yn sicr yn dangos gwir ystyr hyn:

“Bu’n fraint gallu ymgymryd â rôl Gwirfoddolwr Cefnogi Teuluoedd Rhoddwyr Organau, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser a llawer o waith caled gan lawer o bobl. Gall cael y cyfle i eistedd a bod gyda theulu sydd wedi gwneud y penderfyniad tocalonnus i fwrw ymlaen â dymuniadau eu hanwyliaid, yn un anodd. A minnau wedi bod yn y sefyllfa honno fy hun, rwy’n gallu cydymdeimlo ac uniaethu â nhw, ac mae gallu gwrando arnyn nhw, eu cysuro, a bod yn rhywun sy’n deall, yn anrhydedd. Gan mai Cymru yw’r lle cyntaf yn y DU i gael y system optio allan, mae’n beth gwych ein bod yn cadw hyn ym meddyliau pobl drwy fod y Bwrdd Iechyd cyntaf yn y DU ac yn Ewrop i gael y math yma o rôl wifoddoli.”

 

Rydyn ni fel teulu wedi dysgu,
“Wrth roi fe dderbyniwn ninnau.”

Dilynwch ni: