PUM TAITH GERDDED YN RHANBARTH BIP CTM I CHI ROI CYNNIG ARNYN NHW
Mynydd y Garth
Taith gymharol hawdd i'r copa, lle mae golygfeydd anhygoel dros Fro Morgannwg.
Cronfa Ddŵr Llwyn-onn
Llwybr cylchol 4.5km o hyd, nid nepell o Aberdâr a Rhondda.
Teithiau Cerdded y Cwningod
Mae'r rhain yn cynnwys Llwybr Cylchol Llantrisant, y Caerau a’r Hen Felin Wynt.
Llwybr Arfordir Cymru
Wrth ddilyn Llwybr Arfordir Cymru, byddwch chi’n darganfod llwybr naw milltir o hyd sy'n rhedeg drwy Fro Morgannwg. Mae'r eglwys, y coleg a'r goleudy i gyd yn rhan o’r golygfeydd anhygoel, sydd hefyd yn cynnwys gwarchodfeydd natur ac eglwysi hynafol.
Parc Gwledig Bryngarw
Gyda 100 erw a mwy o ddolydd, coetiroedd aeddfed a gardd, mae Bryngarw yn lle rhyfeddol i ymweld ag ef, o ddistawrwydd blodau'r Ardd Ddwyreiniol i lannau Afon Garw.
Am fwy o wybodaeth a manylion am y lleoliadau hyn, ewch i www.ramblers.org.uk/wales.
Gallwch chi anfon lluniau o'ch hoff deithiau cerdded a mannau hardd yn ardal BIP CTM at CTM.CommsAndEngTeam@wales.nhs.uk. Dylech chi ddweud pam dewisoch chi’r llun, a sut mae pobl eraill yn gallu cyrraedd yno. Bydd detholiad ohonyn nhw’n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.