Ar ôl gohirio ymweliadau arfaethedig ag Ysbyty’r Tywysog Siarl oherwydd pwysau’r pandemig, roedd y Bwrdd Iechyd yn falch o groesawu’r Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’r Cynghorydd Declan Sammon, Maer Merthyr Tudful i Ysbyty’r Tywysog Siarl yn gynharach y mis hwn.
Mae Project SEARCH yn gynllun sy'n galluogi myfyrwyr coleg o'n cymuned leol sydd ag anableddau dysgu a/neu Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth i ymuno â ni yn y Bwrdd Iechyd i gwblhau interniaeth.
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Galar (2-8 Rhagfyr 2022), rydyn ni’n tynnu sylw at y ffordd y mae prosiect a arweinir gan Gaplaniaeth Cwm Taf Morgannwg, y cyntaf o’i fath yng Nghwm Taf Morgannwg, yn helpu pobl i reoli profedigaeth mewn ffyrdd creadigol.
Cafodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, gyfle yr wythnos diwethaf i gyfarfod â chyfranogwyr sy'n mynychu sesiwn Gwasanaeth Gwella Llesiant (WISE) ym Mhont-y-clun.
Mae prosiect sy'n torri amseroedd aros cleifion cartrefi gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd angen cael cyngor amlddisgyblaethol, wedi ennill gwobr 'Ffordd Newydd o weithio' Advancing Healthcare Wales.
Dysgwch sut mae adnodd hyfforddi newydd i staff y GIG yn helpu i oresgyn rhwystrau i weithredu ar yr hinsawdd ac yn ysbrydoli ffordd fwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau ledled Cymru.
Rydym yn hynod angerddol am gadw ein plant a phobl ifanc Cwm Taf Morgannwg yn iach a hapus.
I gefnogi'r Wythnos Ddiogelu mae'r Tîm Diogelu Corfforaethol wedi lansio Cylchlythyr Diogelu CTM.
Llongyfarchiadau i Rhian Lewis a’r tîm Gweithlu a Datblygu am ennill Gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022 neithiwr.
Yr wythnos hon, daeth partneriaid o bob rhan o’r rhanbarth at ei gilydd i drafod y cyfleoedd y gallai dull system o ymdrin â phwysau iach eu rhoi i bobl ar draws y rhanbarth.
Carreg filltir arall gan fod hanner y bobl sy'n gymwys wedi cael eu pigiad atgyfnerthu ar gyfer yr hydref.
Heddiw mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi symud allan o Fesurau Arbennig.
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd yr Uned yn YCC yn ailddechrau ei wasanaeth ddydd Llun, Tachwedd 7, 2022.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod dau o’n nyrsys Gofal Sylfaenol Clwstwr Taf Elái, Christopher Waters a Melissa Duffy wedi ennill Gwobr ‘Gofal yr Henoed’ yng Ngwobrau’r Nursing Times ar dydd Mercher 26 Hydref allan o wyth darparwr gofal iechyd arall ar y rhestr fer. Roedd y Gwobrau, a gynhaliwyd yng Ngwesty Grosvenor House, Llundain yn cynnwys pum categori ar hugain i gyd.
Mae’n bleser gan yr Uned Adfer Cefnogol yn Ysbyty George Thomas agor eu siop ward newydd ‘Sweets R Us’.
Mae prosiect sy'n lleihau amseroedd aros ar gyfer cleifion cartrefi gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd angen mynediad at gyngor amlddisgyblaethol, wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd Cymru 2022.
Mae gwaith a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y cwmni iechyd digidol Huma a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cael cymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau nodedig Diogelwch Cleifion SHJ am gydweithio ar draws sectorau gan ddefnyddio technoleg ddigidol i ofalu am gleifion y galon o bell.
Heddiw (dydd Iau, Hydref 27, 2022) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) a Phrifysgol De Cymru (PDC) yn lansio eu partneriaeth i gefnogi datblygiad staff.
Mae heddiw (25 Hydref) yn nodi diwedd cynllun peilot gofal iechyd arloesol 6 mis (Mai-Tachwedd 22) a oedd yn cynnwys Byrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda, Arloesedd Anadlol Cymru (RIW) a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.