Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

17/11/21
Dathlu ein gwyrthiau bach ar Ddiwrnod Cynamserol y Byd

Heddiw, rydyn ni’n nodi Diwrnod Babanod Cynamserol y Byd yn CTM trwy ddal i fyny gyda rhai o'r babanod bach gafodd eu geni’n gynnar i weld sut y maen nhw erbyn hyn.

15/11/21
Hysbysiad Cyfarfod Bwrdd - 25 Tachwedd 2021

Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 25 Tachwedd 2021 am 10:00 am. 

10/11/21
Ymarferwyr Uwch dan y chwyddwydr

Yr wythnos hon, ar draws CTM, rydym yn nodi Wythnos Ymarferwyr Uwch drwy ddathlu rôl Ymarferwyr Uwch yn ein Bwrdd Iechyd.

Mae Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACPs) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol, wedi'u haddysgu hyd at lefel Meistr, sydd gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i'w galluogi i ehangu eu cwmpas ymarfer i ddiwallu anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. 

09/11/21
Ymarferwyr Uwch dan y chwyddwydr

Yr wythnos hon, ar draws CTM, rydym yn nodi Wythnos Ymarferwyr Uwch drwy ddathlu rôl Ymarferwyr Uwch yn ein Bwrdd Iechyd.

Mae Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACPs) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol, wedi'u haddysgu hyd at lefel Meistr, sydd gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i'w galluogi i ehangu eu cwmpas ymarfer i ddiwallu anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. 

 

02/11/21
Creu cymhwyster Offthalmoleg cyntaf o'i fath yn y DU yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

O ystyried bod mwy na 10% o’r holl apwyntiadau claf allanol yn y DU yn ymwneud ag Offthalmoleg, roedd gwasanaethau llygaid yn ein hysbytai eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi â’r galw hyd yn oed cyn i COVID-19 daro.

01/11/21
Lansio CTM Gwyrdd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn lansio ei fenter 'werdd' yn ffurfiol yr wythnos hon i gyd-fynd â 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd flynyddol y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 31 Hydref ac 11 Tachwedd.

22/10/21
Cyflwyno modiwl yn ysgolion uwchradd Pontypridd i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn

Bydd disgyblion blwyddyn 7 mewn chwe ysgol uwchradd ar draws Pontypridd a Llantrisant yn cwblhau rhaglen ddysgu â'r nod o godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn. Cafodd y rhaglen ei datblygu trwy waith Ysgol Uwchradd Pontypridd gyda Moondance Cancer Initiative.

22/10/21
BIP Cwm Taf Morgannwg yn talu teyrnged i'r Cynghorydd Phil White, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi talu ei deyrnged i'r Cynghorydd Phil White, fu farw yn ddiweddar ar ôl mynd yn sâl gyda COVID-19.

14/10/21
Cwm Taf Morgannwg yn lansio Menopos @ CTM ar gyfer staff ar Ddiwrnod Menopos y Byd

Ar Ddiwrnod Menopos y Byd (Hydref 18), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) yn falch iawn o fod yn lansio gwasanaeth cymorth Menopos newydd ar gyfer staff, i hybu gwell dealltwriaeth o’r menopos a sut mae'n effeithio ar berthnasoedd a theuluoedd.  Mae'r gwasanaeth hwn yn agored i ddynion a menywod.

14/10/21
Bwrdd Iechyd yn croesawu Aelod Annibynnol newydd

Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Emrys Elias, wedi croesawu penodiad Aelod Annibynnol newydd i'r Bwrdd, Lynda Thomas, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

13/10/21
Cartref newydd i gleifion hŷn yn Ysbyty Tywysoges Cymru

Mae ein ward gofal i gleifion hŷn yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi symud i lawr y grisiau i Ward 15. Mae'r man newydd yn rhoi cyfleoedd newydd i gleifion gymysgu, cymryd rhan mewn gweithgareddau a threulio amser gyda'i gilydd, yn ogystal â diwallu eu hanghenion meddygol.

06/10/21
Bwrdd Iechyd cyntaf Cwm Taf Morgannwg yng Nghymru i fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl yn y gweithle

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl 2021 (Hydref 3 - 9), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Amser i Newid Cymru yn tynnu sylw at ei bartneriaeth arwyddocaol sydd wedi arwain at greu modiwl hyfforddi i chwalu stigma iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal iechyd.  

01/10/21
Ymateb CTM i adolygiad thematig ac adroddiad cynnydd IMSOP

Yn rhan o’i daith tuag at welliannau trwyadl yn ei wasanaethau mamolaeth, mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi ymateb swyddogol i’r ddau adroddiad sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, 5 Hydref, gan y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth (IMSOP).

30/09/21
GWOBR ARBENNIG I STAFF THEATRAU YSBYTY'R TYWYSOG SIARL

Mae pedwar aelod o Adran Theatrau Ysbyty'r Tywysog Siarl wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwaith yn ystod pandemig COVID-19 gyda gwobr arbennig.

29/09/21
Uned gofal lliniarol o'r radd flaenaf wedi gofalu am 1,200 o bobl ers iddi agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddwy flynedd yn ôl

Ers iddi agor ei drysau ddwy flynedd yn ôl, mae mwy na 1,200 o bobl wedi cael gofal mewn uned gofal lliniarol o'r radd flaenaf, sydd wedi ei hariannu i raddau helaeth gan elusennau.

Mae’r garreg filltir wedi ei datgelu i nodi dwy flynedd ers i Uned Gofal Lliniarol Arbenigol NGS Macmillan y Bwthyn agor ei drysau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

21/09/21
Penodi Cadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd

Heddiw (dydd Mawrth Medi 21, 2021) cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, y bydd Emrys Elias yn dechrau swydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg am 18 mis o Hydref 01 2021 pan fydd y Cadeirydd presennol, yr Athro Marcus Longley, yn cwblhau ei dymor o bedair blynedd yn y swydd.

10/09/21
Mae cronfa COVID yn cefnogi lles staff ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Drwy gydol pandemig COVID-19, mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn hynod o ddiolchgar i gael llwyth o roddion ariannol oddi wrth y cyhoedd, gyda llawer ohonyn nhw’n dweud eu bod nhw am gyfrannu at wella lles y staff.

08/09/21
Hysbysiad am Gyfarfod o'r Bwrdd – 30 Medi 2021

Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 30 Medi 2021 am 10:00 am.

08/09/21
Bydd yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon ar gau dros dro o yfory tan rybudd pellach.

Bydd Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cwm Cynon ar gau dros dro o heddiw (8 Medi) nes y byddwn ni’n dweud fel arall.

06/09/21
Clinigau Clefyd Parkinson newydd yn Rhondda, Merthyr Tudful ac Aberpennar

Mae’r Gwasanaeth Nyrsio Arbenigol ar gyfer Clefyd Parkinson ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ehangu i gynnal clinigau yn Rhondda, Merthyr Tudful ac Aberpennar er mwyn ceisio darparu cymorth yn agosach i gartrefi cleifion.

Dilynwch ni: