Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno Gwobr yr Uchel Siryf i ddau nyrs Atal a Rheoli Heintiau yn y Bwrdd Iechyd

Heddiw dyfarnwyd Gwobr yr Uchel Siryf i ddau o nyrsys arweiniol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o'r Tîm Heintiau, Atal a Rheoli Heintiau, Bethan Cradle a Sarah Morgan, gan yr Uchel Siryf, Maria Thomas.

Mae'n gydnabyddiaeth o'r gwaith gwych mae Bethan a Sarah wedi bod yn gyfrifol amdano yn ystod pandemig Covid-19. Gweithiodd y ddau'n ddiflino yn ystod cyfnod digynsail gan roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth i dimau rheng flaen gan eu galluogi i roi'r gofal gorau posib i'n cleifion o dan amgylchiadau hynod heriol.

Fel llawer o dimau ar draws y Bwrdd Iechyd, roedd angen i'r Tîm Heintiau, Atal a Rheoli Heintiau weithio'n wahanol a darparu cefnogaeth ac arweiniad y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol, wrth i'r pandemig fynd yn ei flaen. Roedden nhw bob amser ar gael ac yn hygyrch yn ystod oriau gwaith a tu allan i oriau.

Mae Bethan a Sarah wedi ymateb yn rhagweithiol i'r rheoliadau Covid-19 rhyngwladol a chenedlaethol oedd yn newid trwy'r amser, gan eu troi yn ganllawiau hawdd eu deall. Golygai hyn y gallai timau gweithredol a chlinigol ei weithredu ar gyflymder.

Ma'r tîm wedi bod yn un o'r timau yn y pandemig a oedd "ar flaen y gad" wrth alluogi timau ein bwrdd iechyd i ddarparu gofal yn hyderus mewn ffordd oedd yn gyson ledled y sefydliad.

Llongyfarchiadau Enfawr i Bethan a Sarah!