Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys CTM drwodd i'r rownd nesaf o Gwobr Nyrs y Flwyddyn RCN

Llongyfarchiadau i dair o'n nyrsys sydd drwodd i'r rownd nesaf

Mae Tracy Evans, ein Arbenigwr Nyrs Glinigol yn RTE wedi bod yn y swydd ers Mehefin 2021 ac wedi cofleidio'r rôl gydag angerdd a gusto. Mae Tracy wedi bod yn allweddol wrth wella canlyniadau iechyd a mynediad at wasanaethau ar gyfer grwpiau digartref a bregus. Mae hi wedi datblygu llwybrau gweithio newydd a gwell i gefnogi unigolion ag anghenion cymhleth iawn a gydag amrywiaeth o gyflyrau, gan ddarparu cefnogaeth arbenigol a chydlynu gofal iechyd.

Mae Chris Waters a Melissa Duffy, dau o'n Nyrsys Gofal Sylfaenol Clwstwr, wedi bod yn allweddol wrth sefydlu gwasanaeth eiddilwch newydd a hynod lwyddiannus sy'n cynnig dull rhagweithiol amgen gan fodelau eiddilwch adweithiol traddodiadol a welir ar draws GIG Cymru. Nod y gwasanaeth yw darparu asesiad cynharach o iechyd a lles pobl er mwyn eu galluogi i gadw'n iach, arwain ffyrdd mwy iach o fyw a byw yn annibynnol.

Rydyn ni'n falch iawn. Llongyfarchiadau mawr i gyd ar gael eu rhestr fer.