Neidio i'r prif gynnwy

Sut i newid eich apwyntiad atgyfnerthu hydref

Cyngor ar beth i'w wneud os ydych wedi derbyn eich llythyr apwyntiad atgyfnerthu hydref ac eisiau ei newid.

Rydym wedi anfon miloedd o lythyrau apwyntiad i geisio rhoi cymaint o rybudd â phosibl ar gyfer rhaglen atgyfnerthu'r hydref sydd ar ddod.

Ers hynny rydym wedi derbyn nifer digynsail o alwadau gan bobl sydd am newid dyddiad ac amser eu hapwyntiad, ac rydym yn ceisio delio â’r ceisiadau hynny mor gyflym ac effeithlon ag y gallwn.

Yn anffodus, mae'r nifer enfawr o alwadau'n golygu eich bod yn debygol o aros am amser hir cyn y gallwch fynd drwodd i'n tîm fel y mae ar hyn o bryd. Ddydd Llun, Awst 22, ceisiodd pedair mil o bobl alw i mewn dwy awr ac ni allai ein systemau ymdopi â hynny.

Ychydig o bethau a allai helpu:

  • Gwyddom fod pawb yn byw bywydau prysur, ond a fyddech cystal ag oedi i ystyried a oes angen ichi newid dyddiad neu amser eich apwyntiad? Byddai o gymorth mawr i ni petaech yn gallu blaenoriaethu a chadw at yr apwyntiad a anfonwyd atoch.
  • Rydym yn sylweddoli nad yw hynny bob amser yn bosibl ac efallai y byddwch yn cael gwrthdaro na ellir ei osgoi. Os felly, daliwch ati i roi cynnig ar ein llinell archebu neu fel arall gallwch lenwi’r ffurflen gais apwyntiad ar-lein yma:
  • Gall ein llinellau gymryd 40 galwad ar yr un pryd. Os oes 40 galwad yn y system eisoes bydd y llinell yn ymddangos fel pe bai wedi marw. Ymddiheuriadau am hyn, dyma sut mae'r system yn gweithio. Mae'r llinell yn gweithio ond mae'n llawn, felly ceisiwch eto yn nes ymlaen.
  • Peidiwch â ffonio ein gwasanaethau brechu cymunedol yn uniongyrchol. Mae gwasanaethau eraill yn gweithredu y tu allan i'r adeiladau hynny ac ni fydd eu timau yn gallu eich helpu. Dim ond ein tîm archebu all newid eich apwyntiad.

Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth, dealltwriaeth ac amynedd.

Credwn fod y galw hwn oherwydd y nifer fawr o apwyntiadau a anfonwyd ar yr un pryd ar ddechrau'r rhaglen. Gwnaethom hynny i sicrhau bod cymaint o bobl yn cael cymaint o rybudd ymlaen llaw â phosibl am eu hapwyntiad. Wrth i'r rhaglen ddechrau, bydd niferoedd llai o bobl gymwys yn cael eu gwahodd ac felly rydym yn rhagweld y bydd yn haws mynd drwodd i'n timau archebu. Unwaith eto, diolch ichi am eich amynedd yn y mater hwn, ac edrychwn ymlaen at eich gweld.