Gallwch gysylltu â'n hadran ar 01685 351300. Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi dros y ffôn er mwyn rhoi'r cyngor a'r gefnogaeth orau bosibl i chi.
Yn dibynnu ar anghenion eich plentyn, rydym yn cynnig apwyntiadau dros y ffôn, trwy fideo, neu wyneb yn wyneb.
Ein nod yw darparu gwasanaeth arbenigol o ansawdd uchel i blant ag anawsterau iaith, lleferydd, a chyfathrebu.
Rydym yn asesu ac yn trin unigolion ag ystod o anawsterau cyfathrebu. Gall therapyddion iaith a lleferydd a chynorthwywyr weithio'n uniongyrchol gyda phlant, neu gallan nhw gefnogi rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i helpu'ch plentyn.
Os ydych chi'n poeni am ddatblygiad iaith a lleferydd eich plentyn, gallai fod yn ddefnyddiol trafod hyn gyda'ch ymwelydd iechyd neu athro eich plentyn.
Mae plant yn datblygu sgiliau cyfathrebu o'u genedigaeth. Mae sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu yn datblygu ar wahanol adegau. Mae rhai yn datblygu'n gyflym.
Rydym yn gweithio gyda phlant gydag anawsterau wrth ddefnyddio synau lleferydd, oedi iaith, anhwylder iaith ddatblygiadol, nam ar eu clyw, taflod hollt, atal dweud, awtistiaeth / anawsterau rhyngweithio cymdeithasol, neu lais cryg.
Rydym hefyd yn gweithio gyda babanod sydd ag anawsterau bwydo a llyncu.
Oes, mae gennym system atgyfeirio agored ar gyfer problemau cyfathrebu.
Oriau Agor
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30 am i 4:30 pm
Yn eich apwyntiad cychwynnol, bydd y therapydd yn trafod eich pryderon ac, yn dibynnu ar y rheswm dros atgyfeiriad eich plentyn, bydd y therapydd eisiau gwybod am wahanol agweddau ar ddatblygiad iaith a lleferydd eich plentyn. Bydd y therapydd yn gallu darganfod llawer o'r wybodaeth hon trwy chwarae gyda'ch plentyn, neu gall gynnal asesiad ar gyfer plant hŷn.
Ar ddiwedd yr apwyntiad, bydd y therapydd yn penderfynu a fyddai'ch plentyn yn elwa o gael cymorth i ddatblygu ei sgiliau, a bydd yn trafod y ffordd orau ymlaen i'ch plentyn gyda chi.
E-bost: CTT_ChildrenSpeechandLanguage@wales.nhs.uk
Rhif Ffôn: 01685 351300
Trydarwch Ni
@CTMUHBspeech