Neidio i'r prif gynnwy

Cyn-filwyr

Er mwyn i ni ddarparu'r gofal gorau i'r rhai sydd â chefndir milwrol, mae angen i ni wybod a ydych yn rhan o Gymuned y Lluoedd Arfog (Rheolaidd, Wrth Gefn, Cyn-filwr, Priod, neu blentyn aelod sy'n gwasanaethu).

Rhowch wybod i aelod o staff pan fyddwch chi’n mynychu apwyntiad ysbyty fel y gallwn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei nodi a'n galluogi i sicrhau eich bod ar y llwybr cywir.

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Dyma addewid gan y genedl yn sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) wedi ymrwymo i sicrhau bod cyn-filwyr a chymuned y lluoedd arfog yn mwynhau mynediad teg i'w hanghenion gofal iechyd. Yn unol â Chyfamod y Lluoedd Arfog, bydd penderfyniadau triniaeth yn seiliedig ar angen clinigol pan fydd yr anaf yn gysylltiedig â'r gwasanaeth a bydd cefndir y Lluoedd Arfog yn cael ei ystyried yn ymwybodol i sicrhau nad yw cleifion dan anfantais. 

I ddeall mwy am y cyfamod, ewch i Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Lluoedd Arfog - Cefnogi iechyd a lles Cyn-filwyr

Mae'n bwysig iawn ar gyfer gofal iechyd parhaus eich bod chi’n cofrestru gyda meddyg teulu GIG a chofiwch ddweud wrthyn nhw eich bod wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog o'r blaen. Os ydych chi wedi gadael y lluoedd arfog yn ddiweddar, mae'n bwysig rhoi'r gwaith papur a roddodd eich canolfan feddygol filwrol i chi i'ch meddyg teulu, gan gynnwys unrhyw gofnodion meddygol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich cofnod iechyd milwrol yn trosglwyddo i'ch cofnod iechyd GIG.  Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth i'ch meddyg teulu am eich iechyd ac yn sicrhau bod unrhyw driniaeth barhaus yn cael ei pharhau.

Bydd cael eich nodi fel cyn-filwr yn eich nodiadau meddygol GIG yn helpu i sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau pwrpasol ar gyfer y rhai sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol.

Lluoedd Arfog - Gwasanaeth Iechyd Meddwl

Yng Nghymru, mae gan gyn-filwyr fynediad at Gyn-filwyr GIG Cymru. Mae hwn yn wasanaeth arbenigol sy’n rhoi blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd ac sy'n cael anawsterau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig yn benodol â'u gwasanaeth milwrol. Gall cyn-filwyr atgyfeirio eu hunain at y gwasanaeth neu gael eu hatgyfeirio gan y meddyg teulu neu weithwyr proffesiynol eraill a sefydliadau sy'n gweithio gyda chyn-filwyr.
GIG Cymru i Gyn-filwyr

Wrth gefn - Gweithio i BIP CTM

Mae BIP CTM yn croesawu ceisiadau gan filwyr wrth gefn sy'n gwasanaethu, gan gydnabod a gwerthfawrogi'r arbenigedd ychwanegol a'r sgiliau trosglwyddadwy y maen nhw’n eu datblygu drwy hyfforddiant lluoedd arfog a'u gyrfa filwrol, megis gwaith tîm, datrys problemau, arweinyddiaeth, ymrwymiad, penderfyniad a hunanhyder.

Mae gan BIP CTM amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa, i ddarganfod beth yw'r rhain edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.

Cyn-filwyr - Gweithio i BIP CTM

Mae BIP CTM yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n gadael y gwasanaeth. Mae gan bobl sy'n gadael gwasanaeth, drwy eu gyrfa a'u hyfforddiant milwrol, brofiad o weithio mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol o fewn y gwasanaethau, gan gynnwys hyfforddwyr, gweinyddwyr, rheolwyr TG, nyrsys, a rheolwyr gweithredu/cyfleusterau/prosiect mewn sefyllfaoedd heriol a chymhleth.

Unwaith eto, mae gan BIP CTM amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa, i ddarganfod beth yw'r rhain edrychwch ar ein swyddi gwag presennol.

Gwasanaeth Nyrsys Admiral y Lleng Brydeinig Frenhinol

Mae Gwasanaeth Nyrsys Admiral y Lleng Brydeinig Frenhinol yn cynnig cymorth a chyngor arbenigol i deuluoedd sy'n gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia. Nod y gwasanaeth yw helpu gofalwyr teuluol i ennill y sgiliau sydd eu hangen i gynorthwyo gyda gofal eu hanwyliaid ac mae’n hyrwyddo agwedd gadarnhaol at fyw’n dda gyda dementia. Fel nyrsys cofrestredig sy’n arbenigo mewn dementia, mae Nyrsys Admiral yn helpu gofalwyr i wella ansawdd eu bywyd, sydd yn ei dro yn gwella bywyd y person y maent yn gofalu amdano, a’r teulu ehangach hefyd.

Dolenni Defnyddiol

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Porth Cyn-filwyr - Cyngor a chefnogaeth i gyn-filwyr a chyn-luoedd

Lleng Brydeinig Frenhinol - https://www.britishlegion.org.uk

Fighting with Pride - www.fightingwithpride.org.uk

PALS (Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion)

Cyfeiriadur y Lluoedd Arfog

Dilynwch ni: