Neidio i'r prif gynnwy

Oncoleg Acíwt

Mae'r tîm oncoleg acíwt wrth law i ddarparu gwasanaeth cynghori er mwyn helpu timau derbyn cleifion i reoli argyfyngau sy'n deillio o ddiagnosis o ganser neu driniaeth amdano. Ein cylch gwaith yw helpu i reoli gofal heb ei drefnu i gleifion sy'n ymwneud â chanser, gan gynnwys cleifion sydd gyda’r canlynol:

  1. Achos acíwt gyda diagnosis newydd o ganser sydd wedi ei ganfod yn rhan o ymchwiliadau eraill (gan gynnwys Malaenedd o Darddiad Anhysbys).
  2. Cymhlethdodau oherwydd canser, e.e. Cywasgiad Metastatig ar yr Asgwrn Cefn, Hypercalcaemia.
  3. Cymhlethdodau oherwydd y driniaeth am ganser, e.e. Sepsis Newtropenig.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Unrhyw gleifion sy'n dod i'n hysbytai mewn cyflwr acíwt neu unrhyw gleifion gyda diagnosis newydd neu barhaus o ganser. Mae'r rhestr uchod yn enghraifft o’r pethau gallwn ni helpu gyda nhw, ond dydy hi ddim yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae modd i unrhyw un gyda diagnosis newydd neu barhaus o ganser gael ei atgyfeirio at y gwasanaeth gan ei weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Oriau Agor
Dydd Llun – dydd Gwener 08.30–16.30

Beth i'w ddisgwyl

Gallwn ni helpu i sicrhau bod y claf ar y llwybr cywir a helpu gyda chyfathrebu yn yr ysbyty, boed hynny gyda'r timau oncoleg a gofal lliniarol, gyda chleifion a pherthnasau neu gyda gofal sylfaenol. Yn ogystal â hynny, ni yw’r gweithiwr allweddol i gleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser heb darddiad hysbys.

Cysylltwch â ni

Ysbyty Brenhinol Morgannwg: 01443 443443 est. 6958
Ysbyty’r Tywysog Siarl: 01685 726969 
E-bost: ctm_Acute_Oncology_Service@wales.nhs.uk 

 

Dilynwch ni: