Newidiadau Gwasanaeth ar gyfer COVID-19
Oherwydd amgylchiadau o amgylch COVID-19, mae'r ffordd yr ydym yn darparu gofal yn y Gwasanaeth Clefyd Parkinson Cymunedol wedi newid. Roeddem ni wedi cysylltu â'r holl gleifion sydd o dan ofal y gwasanaeth dros y ffôn fel rhan o Gynllun Galwadau Lles, a byddwn yn parhau i gysylltu â phobl. Os daeth i'r amlwg yn sgil y Cynllun Galwadau Lles bod angen barn arbenigol ar glaf, bydd Nyrs Glinigol Arbenigol Clefyd Parkinson yn cysylltu â’r claf hwnnw dros y ffôn, a bydd y nyrs wedyn yn anfon y claf ymlaen at yr asiantaeth neu adran iawn neu at y meddyg teulu, neu bydd yn cysylltu â’r meddyg ymgynghorol neu feddyg am gyngor (bydd meddyg teulu’r claf yn cael gwybod am y canlyniad).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau brys yn ymwneud â'r Gwasanaeth Clefyd Parkinson Cymunedol, cysylltwch â:
Ffôn: 01443 443092
E-bost: CTMParkinsonsNursingService@Wales.nhs.uk
Ar gyfer Gwasanaeth Parkinson Cymunedol Ysbyty Tywysoges Cymru, cysylltwch â: Louise Ebenezer, Nyrs Glinigol Arbenigol, ar 01656 752047 .
Mae'r Gwasanaeth Nyrsys Arbenigol Clefyd Parkinson yn wasanaeth asesu a gofal dilynol ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o Glefyd Parkinson. Gall cleifion gael eu hatgyfeirio gan naill ai eu meddyg teulu, meddyg ymgynghorol neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, fel ffisiotherapydd.
Mae'r gwasanaeth asesu a gofal dilynol hwn ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis o un o'r canlynol:
Gwasanaeth dan arweiniad nyrsys yw hwn, sy'n gweithio'n agos gyda meddygon teulu, meddygon ymgynghorol, ac aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaeth.
Mae'r Gwasanaeth Nyrsys Arbenigol Clefyd Parkinson yn darparu gwasanaeth nyrsio arbenigol i bobl â Chlefyd Parkinson.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i drigolion Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Defnyddir y gwasanaeth hwn trwy atgyfeiriad yn unig ac mae pob atgyfeiriad yn cael ei asesu i sicrhau ei fod yn addas.
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am - 5pm
Mae'r Gwasanaeth Nyrsys Arbenigol Clefyd Parkinson yn darparu:
Gellir cysylltu â Gwasanaeth Arbenigol Nyrsys Clefyd Parkinson yn:
* Sylwch efallai y bydd angen i chi adael neges ar y system peiriant ateb. Bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gall. Sicrhewch eich bod yn gadael eich enw, rhif a rheswm dros ffonio.
Dylid atgyfeirio unrhyw argyfwng at eich meddyg teulu, gwasanaeth 'y tu allan i oriau' eich meddyg teulu, neu trwy ffonio 999 ar unwaith.