Mae’r Uned Meddygaeth Ffetws (FMU) yn adran arbenigol sy'n darparu gofal arbenigol, diagnosis a thriniaeth ar gyfer beichiogrwydd risg uchel, gan ganolbwyntio ar iechyd y baban yn y groth.
Mae'r uned hon yn cael ei harwain gan arbenigwyr, gan gynnwys meddygon a bydwragedd. Os oes angen atgyfeiriad arnoch i'r uned hon, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofalu amdanoch yn siarad â chi am hyn cyn eich atgyfeirio.
Mae’r Uned Meddygaeth Ffetws ar gyfer ardal Cwm Taf Morgannwg wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro .