Mae'r adran hon yn egluro'r ddau brawf sgrinio uwchsain a fydd yn cael eu cynnig i chi yn ystod beichiogrwydd.
Mae'r sgan yn ffordd o wirio bod eich babi yn ymddangos yn datblygu yn ôl y disgwyl.
Mae hyn yn golygu y gallai ddangos canfyddiadau annisgwyl y byddai angen eu gwirio gan brofion eraill. Ni all sgan ddod o hyd i bob cyflwr a sgriniwyd amdano.
Mae animeiddiad ar gael sy'n rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a fydd yn cael eu cynnig i chi a'ch babi yn ystod beichiogrwydd. Ewch i: