Mae gan BIP CTM Fydwraig Ddiogelu sy'n bwynt cyswllt ar gyfer cyngor, arweiniad a chymorth i'r Tîm Bydwreigiaeth. Mae datblygu'r swydd hon wedi galluogi'r tîm bydwreigiaeth i fagu’r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol drwy hyfforddi i fod yn eiriolwr ac i roi cymorth i'n teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed.
Mae’r tîm bydwreigiaeth yn gallu cynnig cymorth i'n teuluoedd sy'n agored i niwed drwy gyfeirio at wasanaethau plant am gymorth ychwanegol a gwasanaethau gwirfoddol, fel y gwasanaethau cam-drin domestig yn ein cymunedau. Mae menywod a theuluoedd sy'n agored i niwed yn cael cynnig cymorth priodol mewn amserlen briodol, yn ogystal â gwasanaethau bydwreigiaeth ychwanegol gan ein Tîm Bydwragedd Dechrau'n Deg a Theuluoedd Cydnerth, os bydd angen.
Gan weithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Plant, mae taflen wybodaeth hawdd ei darllen ar gael i deuluoedd sydd wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau plant. Mae’r daflen yn amlinellu'r broses bod gwasanaethau gerllaw i roi cymorth iddynt.
Mae datblygiad "Blwch eich babi" ar gyfer mamau babanod sy’n mynd i leoliad maeth ar ôl cael eu geni wedi cael ei gyflwyno yn BIP CTM, er mwyn rhoi cysur yn ystod y cyfnod anodd hwn yn eu bywyd.