Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Meddwl Fforensig

Beth rydyn ni’n ei wneud

Nod y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cyfiawnder Troseddol a Fforensig yw darparu gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol i’r rheiny sy’n dod i gysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder troseddol ac y mae angen triniaeth iechyd meddwl arnyn nhw.

Mae dwy swyddogaeth benodol i wasanaeth Iechyd Meddwl Cyfiawnder Troseddol a Fforensig:

  1. Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol sy'n darparu gwasanaethau asesu, cysylltu a dargyfeirio i Asiantaethau Cyfiawnder Troseddol lleol sy'n cynnwys yr Heddlu, y Llysoedd a'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

  2. Yn ail, y gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl Fforensig sy'n darparu gwasanaethau asesu ac ymgynghori arbenigol, yn ogystal â chapasiti cyfyngedig ar gyfer Cydlynu Gofal i ddefnyddwyr gwasanaethau mewn lleoliadau cymunedol a chleifion mewnol.

Ar gyfer pwy mae e?

Yn bennaf mae'r gwasanaeth wedi'i anelu at y canlynol:

  • Y bobl hynny sy'n dioddef o afiechyd meddwl sydd mewn cysylltiad â'r Gwasanaethau Cyfiawnder Troseddol ac sydd angen gwasanaethau cyswllt, dargyfeirio neu asesu.

  • Pobl sydd wedi cael eu dedfrydu i orchymyn ysbyty gan y system cyfiawnder troseddol.

  • Pobl sydd wedi cael eu trosglwyddo o'r carchar i ofal ysbyty cleifion mewnol iechyd meddwl.

  • Pobl â salwch meddwl sy'n gadael y carchar ac mae eu troseddu ar lefel sy'n gofyn am ofal fforensig arbenigol.

  • Pobl yn y gymuned y mae cymaint o risg fel bod angen asesiad arbenigol, cydlynu gofal ac ymyrraeth gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Fforensig.

Dydy hi ddim wedi'i anelu at yr unigolion hynny sy'n dioddef o ddiagnosis sylfaenol o gamddefnyddio sylweddau yn absenoldeb unrhyw salwch meddwl clir.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Bydd y gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer pobl sydd:

  • Ag anhwylder meddwl posibl neu sefydledig sy’n ymwneud ag ymddygiad troseddol difrifol,
  • Yn dangos risg ddifrifol wirioneddol neu bosibl i eraill, sy’n gysylltiedig â’u hanhwylder meddwl,
  • Ar gyfer pobl y gallai fod angen sgiliau/cyfleusterau arbenigol y gwasanaeth fforensig cymunedol ar gyfer eu hasesiad/triniaeth.

Bydd atgyfeiriadau fel arfer yn dod o’r canlynol:

Bydd y Gwasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol yn cefnogi atgyfeiriadau gan gydweithwyr Cyfiawnder Troseddol ac Iechyd o fewn gorsafoedd heddlu, llysoedd a gwasanaethau prawf, lle mae amheuaeth o anhwylder meddwl neu hunan-niweidio.

Bydd y gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl Fforensig yn cefnogi atgyfeiriadau gan:

  • Wasanaethau iechyd meddwl cymunedol presennol sy'n cyflwyno risgiau difrifol i eraill, sy'n gysylltiedig ag anhwylder meddwl wedi'i ddiagnosio.
  • Cleifion mewnol sy'n destun gorchmynion ysbyty mewn gofal diogel.
  • Cleifion a ryddhawyd yn amodol (a gadwyd yn flaenorol o dan Adran 37 gyda chyfyngiadau adran 41).
  • Cleifion ar drwydded (wedi cwblhau rhan o'u dedfryd yn y carchar ond yn destun amodau trwydded parhaus tra bod gweddill eu dedfryd yn cael ei chyflawni yn y gymuned).
  • Cleifion penodol ar Orchmynion Cymunedol a dedfrydau gohiriedig gyda chyflyrau seiciatrig
 
Dilynwch ni: