Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar mewn Seicosis

Beth rydyn ni’n ei wneud

Ein nod yw ceisio, nodi a lleihau oedi mewn triniaeth ar ddechrau seicosis. Rydym yn hybu adferiad trwy leihau’r tebygolrwydd o gael ail-bwl o salwch, yn dilyn pwl cyntaf o seicosis.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Rydym yn cefnogi pobl rhwng 14 a 35 oed sydd wedi profi symptomau seicosis o fewn y 3 blynedd diwethaf, a lle mae dirywiad yn lefel eu gweithrediad wedi cyd-daro â dechrau symptomau.

Beth i'w ddisgwyl

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn y gymuned sy'n gweithio gydag unigolion a'u teuluoedd i ddeall profiad personol, cefnogi gwelliannau i leihau symptomau, lles emosiynol; lleihau trallod, cynyddu hyder, ymdopi ac adnoddau cymdeithasol.

Mae'r tîm yn cynnig cydlynu gofal ac ymyrraeth i unigolion am uchafswm o dair blynedd o'r adeg atgyfeirio.

Cysylltwch â Ni

Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar mewn Seicosis

Ysbyty Cwm Cynon
Heol Newydd
Aberpennar
CF45 4BZ

Ffôn: 01443 715 100

 

 

Dilynwch ni: