Ym mis Mawrth 2015, gwelwyd penllanw ailgynllunio cynhwysfawr o wasanaethau strôc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys:
Ysgogwyd hyn gan yr angen i wella ansawdd gwasanaethau yn unol â safonau clinigol cenedlaethol lleol a mwy heriol fyth
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cleifion sy’n byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg yn bennaf, ond mae rhai cleifion o ardaloedd Byrddau Iechyd Powys ac Aneurin Bevan hefyd yn cael gofal strôc yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.
Gwasanaeth brys yw hwn. Mae cleifion sydd â symptomau a amheuir yn cael eu hasesu yn dilyn derbyniad brys.
Oriau Agor
24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
Os oes gennych symptomau strôc dylech ffonio 999.
Dylech ddisgwyl ymateb cyflym ac asesiad amserol i'r gwasanaeth priodol.
Os oes gennych symptomau strôc mae hwn yn argyfwng. Galwch 999.