Mae eich adran Iechyd Galwedigaethol wedi ymrwymo i ymdrechu i'ch cadw'n iach yn y gwaith, yn gorfforol ac yn feddyliol fel ei gilydd.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gwaith da yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n lles.
Byddwn yn helpu i gadw gweithwyr yn iach ac yn ddiogel pan fyddant yn y gwaith ac yn rheoli unrhyw risgiau yn y gweithle sy'n debygol o achosi salwch sy'n gysylltiedig â gwaith.
I grynhoi, mae Iechyd Galwedigaethol yn canolbwyntio ar sut mae gwaith yn effeithio ar iechyd person a sut mae iechyd rhywun yn effeithio ar ei waith.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o Nyrsys Arbenigol hynod fedrus, Meddygon, Ffisiotherapyddion a Swyddog Cymorth sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r canlynol:
Os ydych yn gyflogai gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth trwy ‘atgyfeiriad rheolwr llinell’ neu ‘hunan-atgyfeiriad’ ac mae’r rhain i’w gweld ar safle mewnrwyd y staff ‘Sharepoint’.
Fel arall, ffoniwch y rhif isod os oes gennych unrhyw ymholiadau
Teleffôn : | Galwadau Allanol: 01443 443231 Galwadau Mewnol: Est 73231 |
E-bost : |
Ymholiadau cyffredinol: CTT_Occupationalhealth@wales.nhs.uk Ymholiadau cyn cyflogaeth: CTT_Occhealthnewstart@wales.nhs.uk |
Cyfeiriad : | Iechyd Galwedigaethol, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ynysmaerdy, Llantrisant, RhCT, CF72 8XR. |
Oriau Agor y Gwasanaeth: |
Llun - Gwener 8yb-4yp |