Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o hunangymorth/cyngor ar Gwsg

Arferion Cwsg:

Mae cael rhywfaint o olau naturiol trwy fynd allan yn yr awyr agored yn ystod y dydd yn dda i'r patrwm cysgu. Os dydych chi ddim yn gadael y tŷ yn rheolaidd oherwydd symptomau eraill ME /CFS neu COVID Hir neu gyfyngiadau sy'n bodoli eisoes, ceisiwch eistedd o leiaf ger ffenestr neu ddrws agored am rywfaint o olau dydd am ran o'r dydd. Yn ddelfrydol, dylai hyn fod yn gynnar yn eich diwrnod gan fod hyn yn helpu i osod eich 'cloc corff'.

Mae cael trefn gyda'r nos yn rhan allweddol o hylendid cwsg da. Mae hyn yn caniatáu i'ch corff ddirwyn i ben, a hefyd diffodd yn feddyliol i baratoi ar gyfer cysgu. Ceisiwch osgoi sgriniau am o leiaf 45-60 munud cyn mynd i'r gwely. Mae caffein, nicotin ac alcohol i gyd yn tarfu ar gwsg, fel y mae bwyta pryd trwm neu ymarfer corff yn rhy agos at amser gwely.

Awgrymiadau ar gyfer trefn gysgu dda:

  • Cynnal amserlen gysgu / codi gyson
  • Brwsio dannedd a newid i ddillad nos ar yr un pryd bob nos
  • Peidiwch â mynd i'r gwely'n llawn, yn newynog neu'n sychedig
  • Paratoi ac yfed diod boeth neu oer – dim caffein nac alcohol.
  • Cael bath neu gawod cyn amser gwely
  • Ysgrifennu mewn dyddiadur neu gyfnodolyn symptom i gael eich pryderon 'allan' cyn amser gwely
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgafn cyn mynd i'r gwely e.e. darllen llyfr neu wrando ar lyfr sain neu gerddoriaeth ysgafn
  • Ceisiwch osgoi ffonau clyfar / tabledi a sgriniau cyfrifiadur awr cyn amser gwely.

Rhai ystyriaethau amgylcheddol hylendid cwsg:

  • Os gallwch chi, gwnewch eich ystafell wely ychydig yn oerach nag ystafelloedd eraill
  • Dillad gwely cyfforddus, h.y. llieiniau glân meddal, matres a chlustogau ategol
  • Lleihau golau cymaint â phosib, fel bod eich ystafell yn dywyll
  • Lleihau sŵn cymaint â phosib neu sŵn tawel sy’n addas i gysgu (mae rhai pobl yn dweud bod sŵn sain ysgafn/gwyn yn eu helpu i gysgu)

Mae'n bwysig blaenoriaethu hylendid cwsg a'r amser i gysgu, ond peidiwch â cheisio gorfodi'ch hun i gysgu. Os ydych chi’n dal i fethu cysgu, codwch o'r gwely a gwnewch rywbeth arall (yn ddelfrydol rhywbeth nad yw'n ysgogol iawn!) a rhowch gynnig arall arni’n nes ymlaen pan fyddwch chi'n dechrau teimlo'n flinedig. Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu dylech chi ddim treulio mwy nag 20 munud yn effro yn y gwely ar unrhyw adeg. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan fyddwch chi'n deffro yn ystod y nos. Yn lle hynny, os dydych chi ddim yn gallu mynd i gysgu, ceisiwch eistedd yn rhywle arall, sy'n gyfforddus ac wedi'i oleuo'n ysgafn. Cofiwch osgoi sgriniau! Ceisiwch ailadrodd rhai o'r camau yn eich trefn yn ystod y nos (awgrymiadau uchod). Pan fyddwch chi'n teimlo'n barod i gysgu eto, ewch yn ôl i'r gwely. Ailadroddwch os oes angen.

Efallai ei fod yn swnio'n rhy syml, ond unwaith y byddwch chi'n dilyn trefn dda, ceisiwch beidio â phoeni am gwsg! Po fwyaf y byddwch chi'n poeni, y mwyaf anodd y daw. Does dim cyfrinach i fod yn 'cysgwr da' ar wahân i ymddiried y bydd yn dod.

  • Gwefan gyda llawer mwy o wybodaeth am gwsg a sut i wella eich cwsg chi: www.thesleepcharity.org.uk
  • Rhaglen ar Netflix o'r enw "Headspace guide to sleep". (Bydd angen tanysgrifiad Netflix arnoch i gael mynediad ato)
  • Mae gan ap o’r enw "CBT-I Coach" awgrymiadau ar newid ymddygiad o amgylch cwsg a chofnodi eich cynnydd hefyd (can we have a link here please?)
Dilynwch ni: