Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Gofal Critigol?

 

Gellir galw Unedau Gofal Critigol yn enwau amrywiol sydd i gyd yn golygu’r un peth, er enghraifft: Uned Gofal Critigol (CCU), Uned Gofal Dwys (ICU) neu Uned Therapi Dwys (ITU). Mae Unedau Gofal Critigol yn wardiau ysbyty arbenigol sy'n darparu triniaeth a monitro i bobl sy'n sâl iawn ac sydd angen cymorth na ellir ei roi mewn ward arferol.

Mae pobl yn cael eu derbyn i Ofal Critigol os ydyn nhw’n ddifrifol wael ac angen triniaeth ddwys, cymorth organau a monitro agos, neu os ydyn nhw’n cael llawdriniaeth a gall Gofal Critigol eu helpu i wella.

Mae gan Unedau Gofal Critigol lefelau staffio llawer uwch na wardiau arferol. Prif nod y tîm yw darparu gofal a chefnogaeth lefel uchel i bob claf a theulu.

Mae rhagor o wybodaeth am pam y gallai rhywun fod mewn Gofal Critigol a beth mae hyn yn ei olygu ar gael yma: https://www.nhs.uk/conditions/intensive-care/

 

Dilynwch ni: