Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd ar ôl bod mewn Gofal Critigol?

 

Canmoliaeth, Pryderon ac Adborth

Gall goroeswyr Gofal Critigol brofi proses derbyn anodd, gydag anwyliaid, teulu a ffrindiau hefyd yn cael yr amser hwn yn heriol er gwaethaf y cymorth rydym yn anelu at ei ddarparu.

Fel tîm, rydym wedi ymrwymo i ddysgu a gwella drwy’r amser gan ymdrechu i ddarparu’r gofal gorau i bob claf a theulu rydym yn cwrdd â nhw. Hoffem glywed eich adborth ar y gwasanaeth a ddarparwn, gan gynnwys pethau a aeth yn dda, i ddiolch i rywun a wnaeth wahaniaeth neu i ddweud wrthym sut y gallem fod wedi gwneud yn well.

Mae croeso i chi gynnig yr adborth hwn i staff mewn Gofal Critigol. Neu fel arall, defnyddiwch weithdrefn y Bwrdd Iechyd i gofnodi cwynion a phryderon. I gael rhagor o wybodaeth am hwn, ewch i: https://bipctm.gig.cymru/cysylltwch-a-ni/pryderon-a-chwynion/

PALS (Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion)

  • Mae'r Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion (PALS) yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth cyfrinachol am ddim. Gallant eich helpu gydag unrhyw bryderon neu ymholiadau sydd gyda chi am eich gofal chi, gofal eich anwyliaid neu ofal rywun rydych yn eu cefnogi, gan ddarparu cymorth pan fyddwch ei angen, neu ddim yn gwybod ble i droi. Gall PALS eich helpu i ddatrys unrhyw bryderon a all godi a bydd yn gweithio gyda staff a rheolwyr i drafod atebion cyflym i broblemau neu gwestiynau. Efallai y byddwch chi’n dewis siarad â PALS yn gyntaf i geisio datrys problem cyn neu yn lle gwneud cwyn ffurfiol.

I gael rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt, dilynwch y ddolen hon: PALS (Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion)

Dilynwch ni: