Mae gwasanaethau Gofal Sylfaenol ar agor ac ar gael i’ch helpu os byddwch chi’n teimlo’n dost. Fodd bynnag, efallai y bydd gwasanaethau’n edrych ychydig bach yn wahanol ar hyn o bryd.
Yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi gorfod addasu sut rydyn ni’n darparu gofal iechyd, ond mae eich gwasanaethau iechyd lleol ar gael i chi serch hynny ac yn barod i’ch helpu.
Os ydych chi’n teimlo’n dost, mae help wrth law; bydd tîm eang o weithwyr iechyd proffesiynol ar gael i’ch helpu. Yn eu plith y mae Ffisiotherapyddion, Cydlynwyr Lles, Fferyllwyr Cymunedol, Therapyddion Galwedigaethol, Deintyddion, Uwch-ymarferwyr Nyrsio a Swyddogion Cymorth Meddygon Teulu.
Gallwch chi ddefnyddio gwasanaethau mewn nifer o ffyrdd gwahanol.
Ar gyfer mân anhwylderau fel annwyd, ewch i weld eich Fferyllydd.
Ar gyfer cyflyrau ar y llygaid, ewch i weld eich Optegydd.
Ewch i weld eich deintydd os oes crawniad yn eich dant neu ddannoedd.
Gwnewch apwyntiad yn eich meddygfa a bydd staff y dderbynfa neu’r Llywiwr Gofal yn trefnu amser i chi gyda naill ai’r meddyg teulu, Nyrs neu staff eraill y feddygfa, yn ddibynnol ar y gofal sydd ei angen arnoch chi.
Ymhlith y gwasanaethau eraill sydd ar gael y mae:
Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth sydd fwyaf priodol i chi, fe fyddwch chi’n derbyn y driniaeth gan y gweithwyr proffesiynol mwyaf priodol.
Mae’r ymgyrch #EichTîmLleol yn tynnu sylw at yr ystod o weithwyr proffesiynol a all helpu cleifion, heb angen i chi fynd i weld y meddyg yn gyntaf.
Cymorth Iechyd Meddwl a Lles
Mae’r pandemig wedi effeithio ar bob un ohonom ni, ac mae llawer o bobl yn pryderu am eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae cymorth ar gael i chi ar ein hyb lles.