Ym mis Mai, byddwn yn parhau i ymgysylltu mewn modd cadarnhaol â sefydliadau, gwleidyddion a thrigolion Cwm Llynfi wrth i gam nesaf ein rhaglen gyffrous Dyfodol Iach Maesteg ddechrau.
Casglwyd safbwyntiau yn helaeth ar ffyrdd o ddiwallu anghenion iechyd a gofal y boblogaeth leol yn well, gan gynnwys cynllun ar gyfer datblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol. Dyma'r pum prif flaenoriaeth iechyd a gofal ar gyfer Cwm Llynfi.
Yn y cam nesaf hwn, byddwn yn:
Mae digwyddiad gwybodaeth i'r cyhoedd wedi'i gynllunio ar gyfer dydd Iau 25 Mai (6.30-8pm) yng Nghlwb Rygbi Maesteg. Cofrestrwch yma.
Ymunwch â'n sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DyfodolIachMaesteg