Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth Iechyd a Lles Ychwanegol

  • Rhowch amser iddo
    Syniadau ymarferol am ddim a chyngor arbenigol ar gyfer eich holl heriau magu plant.

    Llinell Gymorth
     
  • Bywydau Teuluol
    Yn cynnig gwasanaeth llinell gymorth cyfrinachol am ddim i deuluoedd yng Nghymru ar unrhyw agwedd ar rianta a bywyd teuluol. I siarad â rhywun ffoniwch 0808 800 2222 neu ewch i Parenting and Family Support - Family Lives (Parentline Plus) i gael mynediad at y sgwrs fyw.
     
  • Parent Talk Cymru (Gweithredu Dros Blant)
    Yn cynnig sgwrs fyw gyfrinachol am ddim gyda hyfforddwr magu plant sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
     
  • Gwnewch gais am Cychwyn Iach - Cael help i brynu bwyd a llaeth
    Os ydych yn cael budd-dal cymhwyso ac yn feichiog neu â chyfrifoldeb rhiant am o leiaf un plentyn o dan 4 oed, gallwch wneud cais ar-lein nawr am gerdyn Cychwyn Iach y GIG (yn agor mewn tab newydd).
     
  • Valleys Steps | Cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar a Rheoli Straen am Ddim
    Cyrsiau hunangymorth mynediad agored/hunan-atgyfeirio am ddim yn y gymuned gan gynnwys: Rheoli straen: Nod y cwrs yw helpu pobl i ddeall achosion straen a sut i reoli ei symptomauYmwybyddiaeth Ofalgar: Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT) gydag ychydig o fyfyrio (sesiynau galw heibio/hunan-atgyfeirio)Mae cyrsiau eraill yn cynnwys: 5 ffordd i les, cysgu, cymryd amser allan, panig a phryder, rheoli meddyliau anodd.
    E-bost: info@valleyssteps.org / Ffôn: 01443 803048
     
  • Croeso i Exchange Counselling (Merthyr)
    Darparu cefnogaeth seicolegol i blant a phobl ifanc yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.
    Ffôn: 03302 02 0283
     
  • Pantris Bwyd, Banciau Bwyd a Help gyda Chostau Byw
    Gyda chostau byw ar gynnydd a talu biliau yn ymddangos yn anoddach, ac os oes angen cefnogaeth arnoch, beth am gysylltu â'ch banc bwyd, pantri neu gydlynydd llesiant lleol?
    Oeddech chi'n gwybod? Bydd Cydlynwyr Lles yn gweithio gyda chi i'ch cefnogi gyda beth sydd bwysicaf. Cael gafael ar fwyd iach cost isel, gwasanaethau i gefnogi lles neu gadw'n heini.
    Rhowch alwad iddyn nhw am sgwrs ddefnyddiol am ddim a darganfod beth sydd o fewn eich ardal leol i'ch helpu chi.
    Merthyr Tydfil: https://vamt.net/cy/projects/community-coordinators/
     
  • DASPA - PWYNT MYNEDIAD UNIGOL AR GYFER CYFFURIAU AC ALCOHOL
    Am wybodaeth, cyngor a mynediad hawdd at wasanaethau ar gyfer y rhai y mae camddefnyddio alcohol a sylweddau yn effeithio arnyn nhw ar draws CTM.
    Ffôn: 0300 333 0000
     
  • Helpa Fi i Stopio | Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Smygu Yng Nghymru
    Maen nhw’n cynnig ystod o wasanaethau fel sesiynau grŵp am ddim, cymorth un i un, cymorth dros y ffôn a chymorth fferyllfa. Gallwch hunan-atgyfeirio neu gyda chaniatâd llafar gallwch gyfeirio unigolyn trwy e-atgyfeirio. Mae 49 o fferyllfeydd ar draws CTM sy'n darparu cymorth i roi'r gorau iddi un-wrth-un.
     
  • Cyfoeth Naturiol Cymru/Chwarae natur a hwyl i'r teulu
    Chwarae yw un o'r prif ffyrdd y mae plant yn datblygu ac yn dysgu. Er mwyn helpu teuluoedd, gofalwyr plant, gweithwyr chwarae a grwpiau addysg i wneud y gorau o amgylchedd naturiol Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llunio rhai syniadau am weithgareddau, awgrymiadau a thriciau i helpu plant i feithrin eu diddordeb ym myd natur.
     
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Merthyr Tudful
    Mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) yn darparu cyngor a gwybodaeth am ddim ynghylch ystod eang o opsiynau gofal plant a gweithgareddau i blant 0-19 mlwydd oed, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am Feithrinfeydd Dydd, Gwarchodwyr Plant Cofrestredig, clybiau y tu allan i'r ysgol, grwpiau chwarae Cyn-ysgol a grwpiau rhieni a phlant bach. Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor ar dalu am ofal plant a gweithio ym maes gofal plant.
     
  • STEP Merthyr Tudful
    Yn rhoi cyngor, awgrymiadau, gwybodaeth ac arweiniad ar wahanol agweddau o ddatblygiad eich plentyn.
     
  • Hwb Helpu Cynnar Merthyr
    Gall yr Hwb Helpu Cynnar eich cefnogi chi a'ch teulu i gael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg iawn. Rydym yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth am:
  • Tai
  • Cyllid
  • Addysg
  • Iechyd a lles
  • Magu plant
  • Gweithgareddau cymunedol
  • Gofal plant a chwarae
  • I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Hyb Helpu Cynnar ar 01685 725000 neu EarlyHelp.Hub@merthyr.gov.uk.
     
  • Cysylltiadau Adnoddau Pob Plentyn – Newydd-anedig i 2 Mlwydd Oed
    Mae'r dudalen we hon yn rhoi gwybodaeth i chi am eich plentyn o'i enedigaeth hyd at 2 flwydd oed.
     
  • Home Start Cymru
    Mae ein gwirfoddolwyr ymroddedig yn cefnogi rhieni yn eu cartrefi eu hunain, gan helpu i ymdopi â heriau dyddiol bywyd teuluol trwy ddarparu cymorth a chefnogaeth ymarferol. Rydym hefyd yn cefnogi Tadau yn ystod beichiogrwydd ac ym mlynyddoedd cynnar bywyd eu plentyn, gan eu helpu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, rheoli straen, a chael mynediad at y gefnogaeth gywir pan fydd ei hangen arnynt. E-bost: info@homestartcymru.org.uk / Ffon: 0333 880 0014
     
  • Cyngor ar Bopeth - Cael help gyda chostau byw
    Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno, efallai y byddwch chi’n gallu cael help i fforddio pethau hanfodol fel biliau a bwyd. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Cymorth i’r Cartref a thaliadau cost byw.
     
  • Ymdrin â Thlodi Tanwydd yng Nghymru Gyda’n Gilydd - Cymru Gynnes
    Mae Cymru Gynnes yn elusen sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy gynnig cyngor a chymorth am ddim, gan gynnwys mynediad at grantiau a chyngor i leihau eich biliau ynni.
     
  • Niwrowahaniaeth Cymru
    Ystod eang o adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim sydd wedi'u datblygu gyda phobl niwrowahanol, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru
     
  • SHINE - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
    Mae tîm SHINE yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, partneriaid a rhanddeiliaid i ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd emosiynol a meddyliol. Maen nhw’n cynnig cefnogaeth, hyfforddiant ac addysg seicotherapi i athrawon a rhieni.
     
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr
    Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yn darparu gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim ar amrywiaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc (o enedigaeth hyd at 25 oed), rhieni/teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
  • Gwasanaethau Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr
    Mae'r Tîm Cymorth Cynnar yn wasanaeth gwirfoddol sy'n anelu at helpu i ddarparu'r gefnogaeth gywir i chi a'ch teulu i gynorthwyo newid cadarnhaol. Ffôn: 01656 815420 / E-bost: ehassessment@bridgend.gov.uk
     
  • Gwasanaethau Cymorth Teuluoedd RhCT
    Mae gwefan Teuluoedd RhCT yn gartref i wybodaeth am wasanaethau cymorth o fewn RhCT, gan gynnwys gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd, y Tîm Rhianta, Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth a mwy. Maen nhw hefyd yn cynnig adnoddau ar gymorth ariannol, addysg, a phethau i'w gwneud.
     
  • Canolfan Cymorth Ymddygiad RhCT
    Mae gwasanaethau Canolfan Cymorth Ymddygiad RhCT yn helpu rhieni sy'n ofalwyr i ddeall ac adeiladu strategaethau ar gyfer ymddygiad sy'n heriol, naill ai gyda diagnosis ffurfiol neu hebddo.
Dilynwch ni: