Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithredu Cronfa Elusennol Gyffredinol GIG Cwm Taf Morgannwg [rhif elusen: 1049765], fel y gallen ni dderbyn rhoddion elusennol gan y cyhoedd. Gall arian o’r gronfa hon gael ei ddefnyddio at nifer o ddibenion elusennol, fel lles y cleifion a’r staff, prynu offer, ymchwil ac addysg.
Gall unigolion sydd am roi rhodd wneud hynny yn swyddfa gyffredinol unrhyw ysbyty o’u dewis. Heb orfodi unrhyw ymddiriedaeth, bydd diben unrhyw rodd yn cael ei gofnodi ar y dderbynneb y bydd y Swyddfa Gyffredinol yn ei rhoi i’r rhoddwr, a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio at y diben cofnodedig lle y bo hyn yn ymarferol.
Dylai sieciau fod yn daladwy i Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Neu gallwch chi gyfrannu hefyd drwy ein tudalen JustGiving.
Am resymau gweithredol a rhesymau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, ni fyddwn yn derbyn rhoddion o offer.
I wneud cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw am driniaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu i wneud cais am ad-daliad, bydd angen i gleifion gwblhau ffurflen gais a chyflwyno’r dystiolaeth sy’n dangos preswyliad ac angen clinigol.
Wrth wneud cais am ad-daliad, rhaid darparu derbynebau gwreiddiol a thystiolaeth o’r taliad yn uniongyrchol i’r darparwr gofal iechyd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r adran Gwneud Cais am Driniaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i roi’r gofal gorau posibl i bob un o’n cleifion, ac rydyn ni’n hoffi cydnabod gwaith da ein staff.
Os ydych chi am ddiolch i aelod o staff neu dîm sydd wedi mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau i’ch helpu, yna mae sawl ffordd y gallwch chi roi’r gydnabyddiaeth iddyn nhw maen nhw’n ei haeddu. Yn eu plith mae:
Mae diolch syml yn mynd yn bell. Os hoffech anfon diolch i'n Bwrdd Iechyd, neu i aelod penodol o staff neu dîm, yna cysylltwch â'n timau (PALS) trwy'r manylion cyswllt isod:
PALS Pen-y-bont ar Ogwr: Ffôn: 01656 754194 / E-bost: CTM.BridgendPALS@wales.nhs.uk
PALS Merthyr: Ffôn: 01685 724468 / E-bost: CTM.MerthyrCynon.PALS@wales.nhs.uk
PALS Rhondda: Ffôn: 01443 443039/ E-bost: CTM.RhonddaTaffEly.PALS@wales.nhs.uk
Ydych chi’n teimlo bod aelod o staff wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at eich gofal? Bob blwyddyn rydyn ni’n gofyn i gleifion a/neu eu teuluoedd enwebu aelod o staff am wobr cydnabyddiaeth. I enwebu rhywun, gallwch chi ysgrifennu at y Tîm Cyfathrebu:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Tŷ Ynysmeurig
Parc Hen Lofa’r Navigation
Abercynon
RhCT
CF45 4SN
Os ydych chi’n dymuno cael mynediad i’ch cofnod iechyd eich hun, cofnod ar ran rhywun arall neu unigolyn sydd wedi marw, bydd angen i chi gysylltu â’r Adran Cofnodion Meddygol. Cyfeiriad e-bost yr adran hon yw CTT_Medrecordrequest@wales.nhs.uk.
Os bydd angen i chi ffonio’r Adran Cofnodion Meddygol, gallwch chi ffonio 01443 443233.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'n hadran ceisiadau am fynediad at gofnodion iechyd.
Gall eich meddyg teulu neu eich ymgynghorydd yn yr ysbyty ofyn i ni ariannu triniaeth fydden ni ddim fel arfer yn ei chynnig i chi ar eich rhan. Yr enw ar hyn yn gwneud Cais Cyllido Cleifion Unigol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r adran Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol.
Gallwch anfon Cais Rhyddid Gwybodaeth drwy’r ffyrdd canlynol:
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Ryddid Gwybodaeth, ewch i’n hadran Rhyddid Gwybodaeth.
Rydyn ni wrth ein boddau yn clywed gan ein cleifion, a’r cyfryngau cymdeithasol yw’r platfform perffaith i wneud yn siŵr fod pawb yn clywed am y gwasanaeth gwych gawsoch chi. Ewch i’n tudalen Facebook a/neu Twitter i adael eich sylwadau.
Cewch chi gysylltu â’r Gwasanaeth Gwirfoddoli drwy’r ffyrdd canlynol:
Rhif ffôn: 01656 753783
E-bost: CTUHB_Volunteering@wales.nhs.uk
Post: Gwasanaeth Gwirfoddol, Ysbyty Glanrhyd, Heol Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4LN
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’n cyfleoedd i wirfoddoli, ewch i’n hadran gwirfoddoli.
Mae ein swyddi gwag diweddaraf i'w gweld ar ein hadran swyddi.
Mae eich profiad o’n gwasanaeth yn bwysig i ni. Os byddwch chi’n teimlo ar unrhyw adeg yn anfodlon ar y gofal dderbynioch chi, mae hawl gyda chi i gwyno. Yn y lle cyntaf, os ydych chi’n credu y gallwch chi, trafodwch eich pryder ag aelod o staff ar y pryd, ac fe fydd yn gwneud ei orau i unioni’r sefyllfa ar unwaith.
Os ydych chi am gwyno, cewch chi gysylltu â’r Tîm Pryderon ar:
Rhif ffôn: 01443 744915
E-bost: cthb.concerns@wales.nhs.uk
Am ragor o wybodaeth gweler ein hadran gwynion.
Dylai ymholiadau gan y cyfryngau a’r wasg gael eu hanfon at y Tîm Cyfathrebu drwy CTM.News@wales.nhs.uk.
Os ydych chi’n ffonio y tu hwnt i oriau, ffoniwch yr uwch-reolwr sydd ar alw trwy’r switsfwrdd ar 01443 443443.
I anfon llythyr atom ni, gallwch chi ysgrifennu at:
Y Tîm Cyfathrebu
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Tŷ Ynysmeurig
Parc Hen Lofa'r Navigation
Abercynon
CF45 4SN