Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael eich brechiad ffliw a COVID-19

Mae gan BIP Cwm Taf Morgannwg chwe chanolfan frechu gymunedol  

Mae'r lleoliadau wedi cael eu dewis yn ofalus i geisio cwmpasu ardal y Bwrdd Iechyd mor deg â phosibl. Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr apwyntiad, bydd yn nodi'n glir pa leoliad y dylech fynd iddo.   

Peidiwch â dod i gael dos atgyfnerthu COVID-19 os ydych chi’n teimlo'n sâl neu os oes gennych chi unrhyw symptomau COVID-19.  

Mae’r llinell trefnu apwyntiad ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm: 01685 726464 neu anfonwch e-bost atom yn - ctm.vaccinationenquiries@wales.nhs.uk

Amserau agor Nadolig a Blwyddyn Newydd CVC

  • Mawrth 24 Rhag – Bydd pob safle ar agor ar gyfer sesiwn y bore yn unig. Ar gau yn y prynhawn.
  • Mercher 25 Rhag – Ar gau
  • Iau 26 Rhag – Ar gau
  • Dydd Gwener 27 Rhag – Oriau agor arferol
  • Llun 30 Rhag – Oriau agor arferol
  • Dydd Mawrth 31 Rhagfyr - Bydd pob safle ar agor am sesiwn yn unig. Ar gau o 2:30pm
  • Dydd Mercher 1 Ion – Ar gau

Bydd CVC Maesteg ar gau rhwng 23 Rhagfyr a 6 Ionawr.

Mae ein chwe Chanolfan Frechu Cymunedol isod: 

Dilynwch ni: