Firws cyffredin y gaeaf yw firws syncytial anadlol (RSV), a bydd bron i bob plentyn wedi'i gael erbyn eu bod yn ddwy oed. Mae'n gyffredin i blant hŷn ac oedolion ddal y feirws eto.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd. Fodd bynnag, mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn. Weithiau, mae angen i bobl sy'n mynd yn sâl o haint RSV fynd i'r ysbyty. Gall RSV fod yn fwy peryglus i rai pobl, yn enwedig rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Gall achosi marwolaeth hyd yn oed.
Mae salwch oherwydd RSV yn cael effaith fawr ar y GIG yn ystod misoedd y gaeaf. Yn y DU, mae tua 33,500 o blant dan bump oed yn mynd i'r ysbyty oherwydd y firws. Mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd RSV wedi cynyddu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae RSV yn lledaenu drwy ddod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi'u heintio. Pan fydd pobl sydd wedi'u heintio yn pesychu neu'n tisian, maen nhw'n rhyddhau defnynnau bychan bach sy'n cynnwys y firws i'r awyr. Gall yr haint gael ei ledaenu wrth i bobl gyffwrdd ag arwynebau neu wrthrychau sydd â'r firws arnynt hefyd. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi cael y firws o'r blaen pan oedden nhw'n blentyn. Fodd bynnag, efallai na fydd y ffaith eich bod wedi dal haint RSV o'r blaen yn golygu eich bod wedi eich amddiffyn o hyd, felly gallech gael RSV eto.
Grŵp o arbenigwyr yn y DU sy'n cynghori'r Llywodraeth ar frechlynnau ac imiwneiddio yw'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Ym mis Medi 2023, fe wnaeth y JCVI ddatblygu rhaglen imiwneiddio RSV ar gyfer babanod ac oedolion hŷn.
Mae'r rhaglen RSV yn rhaglen newydd a fydd yn amddiffyn miloedd o fabanod a phobl hŷn rhag salwch difrifol bob gaeaf, gan gadw mwy o bobl allan o'r ysbyty a rhag gorfod gweld meddyg teulu.
Gallai'r brechiad arbed 1,000 o blant ifanc bob blwyddyn yng Nghymru rhag mynd i'r ysbyty a gallai achub bywydau 100 a mwy o bobl hŷn bob blwyddyn.
Erbyn hyn, mae brechlynnau diogel ac effeithiol ar gael ac argymhellwyd y dylid trefnu rhaglen imiwneiddio RSV yn holl wledydd y DU.