Bydd y brechiad MenB yn cael ei gynnig i bawb 17 a 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008.
Mae'r brechlyn hefyd ar gael i'r rhai a aned ar ôl 31/12/2001 (sy'n troi'n 25 ar ôl 31/12/2026) ac sy'n mynychu addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol a'r rhai o Weinyddiaethau Datganoledig y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron.
Ni fydd y brechlyn yn cael ei gynnig:
Ble alla i gael y brechlyn MenB?
Bydd pobl ifanc 17 ac 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008 yn derbyn llythyr gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd. Anfonir llythyrau ar ôl 6 Gorffennaf. Ni fydd y rhai a aned ar ôl 31/12/2001 (a fydd yn troi'n 25 ar ôl 31/12/2026) ac sy’n dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026 yn derbyn llythyr ond dylent gysylltu â'u bwrdd iechyd ar ôl 20 Gorffennaf i ddarganfod ble i gael eu brechiad yn eu hardal leol. Gweler rhestr o fyrddau iechyd a'u manylion cyswllt yma.
Peidiwch â chysylltu â'ch bwrdd iechyd cyn 20 Gorffennaf 2026 am na fydd yr wybodaeth bellach yn barod eto.
Os ydych chi o dan 25 oed ac yn mynychu addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn, bydd disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o'ch llythyr cynnig gan y brifysgol neu'r coleg pan fyddwch chi'n cyrraedd eich apwyntiad.
Pryd alla i ei gael?
Cynigir y dosau cyntaf yng Nghymru o 20 Gorffennaf tan 31 Rhagfyr 2026. Cynigir ail ddosau yng Nghymru tan 31 Mawrth 2027.
Pa mor fuan y byddaf yn cael fy amddiffyn?
Mae'n cymryd o leiaf pythefnos ar ôl eich ail ddos o’r brechlyn i'ch corff gynhyrchu gwrthgyrff i roi lefel dda o amddiffyniad i chi.
Ydy'r brechlyn yn cynnig amddiffyniad llwyr i mi rhag pob math o glefyd Meningococol?
Brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal clefyd meningococol o facteria meningococol. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, ac nid yw'r brechlyn MenB yn eich amddiffyn rhag pob grŵp meningococol.
Efallai bod hwn yn gyfle i wirio eich bod wedi cael y brechlyn MenACWY (fel arfer yn 13-14 oed) sy'n cynnig rhywfaint o amddiffyniad rhag mathau eraill o glefyd meningococol.
Er bod y brechiad MenB yn hynod effeithiol ac wedi arwain at 75% yn llai o achosion MenB mewn grwpiau sydd wedi'u brechu, nid yw'n cynnig amddiffyniad llwyr. Ystyrir bod pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc mewn mwy o berygl, felly mae'n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau clefyd Men B. Mae’r arwyddion i gadw golwg amdanynt yn cynnwys cur pen, chwydu, dolur rhydd, poen yn y cyhyrau, crampiau stumog a thwymyn gyda dwylo a thraed oer. Am ragor o wybodaeth am lid yr ymennydd a chlefyd meningococol, ewch i: Llid yr ymennydd a chlefyd meningococol - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Oes amser delfrydol i mi gael fy ail ddos? Os felly, pryd?
Argymhellir cael yr ail ddos o'r brechlyn MenB o leiaf 4 wythnos (28 diwrnod) ar ôl y dos cyntaf i roi'r amddiffyniad gorau i chi rhag haint MenB. Mae'n cymryd o leiaf pythefnos o'r ail ddos o'r brechlyn i'ch corff gyrraedd lefel dda o amddiffyniad, felly mae gohirio'r ail ddos yn oedi’r amddiffyniad. Dylai'r rhai sy'n gymwys geisio cael y ddau ddos cyn dechrau yn y coleg neu'r brifysgol yr hydref hwn.
Oes angen i mi gael y ddau ddos i gael fy amddiffyn?
Oes. Bydd angen i chi gael y ddau ddos o'r brechlyn, 4 wythnos ar wahân ac yna aros am bythefnos i gael yr amddiffyniad gorau. Mae'r brechlyn MenB wedi'i brofi'n drylwyr ac mae'n bodloni meini prawf diogelwch llym. Mae wedi cael ei ddefnyddio'n rheolaidd yn y rhaglen brechu i fabanod yn y DU ers 2015 ac wedi arwain 75% yn llai o achosion MenB mewn grwpiau sydd wedi'u brechu.
Beth yw sgil-effeithiau cyffredin brechlyn MenB?
Fel pob meddyginiaeth, gall y brechlyn MenB achosi sgil-effeithiau, ond nid yw pawb yn eu cael. Mae'n gyffredin cael rhywfaint o chwydd, cochni neu dynerwch lle rydych chi wedi cael y pigiad. Efallai y byddwch hefyd yn cael twymyn, cyfog, cur pen neu boenau yn y cyhyrau.
Mae sgil-effeithiau fel arfer yn ysgafn ac yn para am gwpl o ddiwrnodau yn unig. Mae'n dal yn bwysig i chi gael y ddau ddos.
Mae sgil-effeithiau mwy difrifol yn brin. Gallwch gymryd meddyginiaeth at boen dros y cownter fel parasetamol i reoli'r symptomau hyn os oes angen.
Os byddwch chi'n profi unrhyw sgil-effeithiau a amheuir yn sgil y brechlyn, gallwch chi roi gwybod am y rhain ar wefan Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy ffonio 0800 731 6789 (9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu drwy lawrlwytho yr ap Yellow Card (Saesneg yn unig).
Pam ydyn ni'n brechu pawb sy’n 17 a 18 oed (gan gynnwys y rhai nad ydynt yn mynd i'r brifysgol)?
Mae pawb sy’n 17 ac 18 oed (blwyddyn ysgol 13 neu gyfwerth) yn cael eu cynnwys oherwydd bod y bobl ifanc hyn o fewn y grŵp oedran sydd ag un o'r cyfraddau uchaf o glefyd MenB y tu allan i fabandod. Mae'r grŵp oedran hwn yn fwyaf tebygol o fod yn dechrau prifysgol (neu addysg bellach breswyl) lle mae'r risg yn cynyddu ymhellach. Mae cynnig y brechlyn i bawb yn y grŵp oedran hwn yn ei gwneud hi'n haws cyrraedd pobl ifanc, gan sicrhau bod cynifer â phosibl yn cael eu diogelu ar y pwynt pan fydd eu risg yn uwch.
Pam nad yw myfyrwyr yn eu 2il neu 3ydd flwyddyn o brifysgol yn cael eu brechu?
Nid yw myfyrwyr ym mlynyddoedd diweddarach y brifysgol yn cael eu cynnwys oherwydd nad ydynt yn cyrchu addysg uwch am y tro cyntaf, sef dyna pryd mae'r risg ar ei huchaf. Mae tystiolaeth yn dangos bod gan fyfyrwyr blwyddyn gyntaf risg uwch o lawer - tua saith gwaith yn fwy na phobl ifanc o'r un oed nad ydynt yn y brifysgol. Mae'r risg yn arbennig o uchel pan fydd pobl newydd yn dod at ei gilydd i gymysgu a byw'n agos, fel mewn neuaddau preswyl. Nid yw'r risg yn cael ei ystyried mor uchel i'r rhai yn eu hail flwyddyn neu flynyddoedd dilynol, felly nid ydynt yn cael eu hystyried yn rhan o'r grŵp risg uchaf ar gyfer y rhaglen wedi'i thargedu hon.
Rwy'n byw yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon ond byddaf yn dechrau fy astudiaethau mewn prifysgol yng Nghymru yr Hydref hwn. A fyddaf yn gymwys i gael y brechlyn MenB?
Os ydych chi'n byw yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac yn mynd i’r brifysgol yng Nghymru, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael y brechlyn MenB. Byddwch yn gymwys i gael y brechiad os byddwch yn dod o dan y naill neu'r llall o'r grwpiau canlynol:
Ar gyfer yr amddiffyniad gorau, mae angen dau ddos o'r brechlyn MenB. Dylid rhoi'r ail ddos o leiaf 28 diwrnod ar ôl y cyntaf, yn ddelfrydol o leiaf bythefnos cyn dechrau'r brifysgol.
Byddwch yn cael cerdyn cofnod brechu yn eich apwyntiad cyntaf. Bydd yn dangos y dyddiad y cawsoch eich dos cyntaf a phryd y bydd y dylech chi gael eich dos nesaf.
Os ydych chi'n derbyn eich dos cyntaf yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallwch barhau i gael eich ail frechiad yng Nghymru. Bydd angen i chi ddod â'ch cerdyn cofnod brechu gyda chi i ddangos bod angen i chi dderbyn eich ail ddos.
Yng Nghymru, mae'r brechlyn MenB i fyfyrwyr yn cael ei ddarparu trwy glinigau cymunedol. Gweler yma am y rhestr o Fyrddau Iechyd a manylion cyswllt: Cysylltiadau brechu - Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gallwch hefyd siarad â'ch practis meddyg teulu lleol neu ganolfan iechyd prifysgol, a all roi cyngor i chi ynghylch ble i gael y brechlyn. Bydd dosau cyntaf yn cael eu cynnig yng Nghymru rhwng 20 Gorffennaf a 31 Rhagfyr 2026. Bydd ail ddosau yn cael eu cynnig yng Nghymru tan 31 Mawrth 2027.
Rwy'n byw yng Nghymru ac wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn MenB. Beth sy'n digwydd gyda fy ail ddos os ydw i'n dechrau fy astudiaethau yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon?
Mae'n bwysig i chi dderbyn dau ddos o'r brechlyn o leiaf 28 diwrnod ar wahân ar gyfer yr amddiffyniad gorau. Yn ddelfrydol, dylid rhoi'r cwrs dau ddos llawn o leiaf bythefnos cyn dechrau addysg bellach breswyl neu yn y brifysgol.
Os cawsoch eich dos cyntaf o'r brechlyn MenB yng Nghymru, byddwch yn cael cerdyn cofnod brechu. Cadwch hwn yn ddiogel ac ewch ag ef gyda chi pan fyddwch chi'n mynd i’ch apwyntiad ar gyfer yr ail ddos.
Os ydych chi'n astudio yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac yn dymuno derbyn eich ail ddos yno, ewch i'r wefan berthnasol am ragor o fanylion: