Mae gan BIP Cwm Taf Morgannwg chwe chanolfan frechu gymunedol.
Mae'r lleoliadau wedi cael eu dewis yn ofalus i geisio cwmpasu ardal y Bwrdd Iechyd mor deg â phosibl. Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr apwyntiad, bydd yn nodi'n glir pa leoliad y dylech fynd iddo.
Er mwyn sicrhau bod ein clinigau brechu yn rhedeg yn esmwyth ac i leihau amseroedd aros, gofynnwn yn garedig i chi gyrraedd dim mwy na 5 munud cyn eich apwyntiad brechu wedi'i drefnu.
Yn anffodus, efallai na fyddwn bob amser yn gallu darparu ar gyfer apwyntiadau galw heibio neu'r rhai heb apwyntiad wedi'i drefnu.
Os oes angen i chi drefnu neu aildrefnu apwyntiad, cysylltwch â'n llinell trefnu apwyntiadau ar 01685 726464.
Diolch i chi am ein helpu i gadw ein clinigau yn rhedeg yn effeithlon.
Mae’r llinell trefnu apwyntiad ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm (ac eithrio gwyliau banc): 01685 726464 neu anfonwch e-bost atom yn - ctm.vaccinationenquiries@wales.nhs.uk
Peidiwch â dod i gael dos atgyfnerthu COVID-19 os ydych chi’n teimlo'n sâl neu os oes gennych chi unrhyw symptomau COVID-19.
Mae ein chwe Chanolfan Frechu Cymunedol isod:
Oriau Agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener (Ac eithrio gwyliau banc)
Sesiwn bore 9:20yb – 12:45yp
Sesiwn prynhawn 1:30pm - 4:30pm
(Bydd y safle ar gau am amser cinio 12:45 – 1:30pm)
Sylwch y bydd CVC Ysbyty George Thomas ar gau ddydd Gwener rhwng 1 Mai a 26 Mehefin. Gweler yr amseroedd agor isod.
Oriau Agor: Dydd Mawrth a dydd Mercher (tan 30 Mehefin 2026, o'r dyddiad hwn ymlaen bydd hyn yn dychwelyd i ddydd Mawrth yn unig).
Sesiwn bore 9:20yb – 12:45yp
Sesiwn prynhawn 1:30pm - 4:30pm