Afiechyd y cyhyrau yw sarcopenia sy'n arwain at golli màs cyhyrau, cryfder a gweithrediad gorfforol. Gall eich gwneud yn fwy tebygol o syrthio, dod yn llai abl yn gorfforol a datblygu briwiau pwyso. Mynd yn hŷn yw prif achos sarcopenia, ond gall bod â nifer o gyflyrau meddygol, peidio â bwyta ac yfed yn dda a bod yn llai egnïol yn yr ysbyty neu'r cartref ei achosi hefyd. Y newyddion gwych yw bod modd atal, trin a gwrthdroi sarcopenia! Gall dilyn y cyngor yn y daflen hon helpu i leihau eich risg, yn ogystal ag ymarfer corff gwrthiant (symud eich corff yn erbyn pwysau neu wrthiant fel band ymarfer corff) a sicrhau deiet iach sy'n cynnwys digon o fwydydd sy'n llawn protein, fel cig, pysgod, cynnyrch llaeth, wyau, tofu, ffa a chodlysiau. Siaradwch â'ch darparwr gofal iechyd os ydych angen rhagor o wybodaeth.
Datgyflyru yw'r dirywiad mewn gweithrediad corfforol a meddyliol oherwydd anweithgarwch neu orffwys yn y gwely am gyfnod hir, gan arwain at ostyngiad mewn cryfder cyhyrau, dygnwch a gallu corfforol cyffredinol. Fe'i profir yn gyffredin ar ôl bod yn sâl a gellir ei atal a'i wrthdroi gyda symudiadau ac ymarfer corff.