Neidio i'r prif gynnwy

Chwalu Mythau

Mae yna lawer o fythau ynghylch adferiad a gorffwys yn y gwely.  

Mythau 

 
  •  Mae angen i gleifion aros yn y gwely i adfer a gwella 
 
  •  Nid yw'n ddiogel i gleifion godi o'r gwely 
 
  •  Ni ddylai cleifion ymolchi a gwisgo eu hunain 
 
Gall aros yn y gwely am ormod o amser a pheidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau arferol bywyd bob dydd, fel golchi a gwisgo, olygu eich bod yn ei chael hi'n anodd dychwelyd i wneud y pethau hyn. Gelwir hyn yn 'ddatgyflyru'.   

Ffeithiau 

 
Mae llawer o ymchwil yn dangos nad aros yn y gwely yw'r ffordd orau o wella mewn gwirionedd, a gall wneud yr amser adfer yn hirach. Gall aros yn y gwely arwain at broblemau eraill, fel:   
  •  Problemau gyda'ch anadlu 
 
  •  Gall eich croen dorri a gall achosi niwed pwyso (briwiau gorwedd) 
 
  •  Mae eich cyhyrau'n colli cryfder ac yn mynd yn wannach 
 
  •  Rydych chi'n colli annibyniaeth gyda phethau fel gofal personol a gwisgo 
 
  •  Efallai na fyddwch chi'n treulio bwyd yn iawn, gan achosi poen stumog neu rwymedd 
 
  •  Efallai y byddwch chi'n drysu 
 
  •  Efallai y byddwch chi'n colli hunanhyder 
 

Manteision aros yn egnïol yn yr ysbyty 

  • Anadlu gwell 

  • Yn gallu ymdopi'n well gartref 

  • Hwyliau gwell 

  • Cwsg gwell 

  • Gwell chwant bwyd 

  • Yn gallu ymladd heintiau'n well 

  • Llai o risg o friwiau gorwedd 

  • Llai o wendid a blinder 

  • Llai o bendro 

  • Llai o risg o syrthio 

  • Llai o boen 

  • Llai o ddryswch 

Dilynwch ni: