Yn dilyn cyfnod o ymgynghori a chydweithio â rhieni/gofalwyr a staff Addysg, fe wnaethon ni lansio ein gwaith papur atgyfeirio newydd ar gyfer plant oed ysgol ym mis Ionawr 2025. Bellach mae gennym yr un gwaith papur a phrosesau ar draws Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.
Ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r ysgol, bydd angen i’n gwaith papur gael ei gwblhau gan y teulu a staff yr ysgol i ystyried atgyfeiriad:
Gellir naill ai llenwi ffurflenni fel dogfennau Word a’u hanfon drwy e-bost atom, neu drwy ein hopsiwn Microsoft Forms (wedi’i fewnosod yn y ffurflenni uchod).
Ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn mynd i ysgol, byddwn yn ystyried atgyfeiriad sy’n cael ei wneud ar y cyd gan y teulu a gweithiwr iechyd/addysg/gofal cymdeithasol arall. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.
Ar gyfer plant cyn oed ysgol, rydym yn awgrymu bod atgyfeiriadau yn dod oddi wrth Ymwelydd Iechyd y plentyn neu Seicolegydd Addysg Blynyddoedd Cynnar, mewn cydweithrediad â’r teulu. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar Ffurflen Atgyfeirio Blynyddoedd Cynnar newydd ar gyfer y Gwasanaeth Paediatreg Cymunedol/Niwroamrywiaeth yn BIP CTM.