Neidio i'r prif gynnwy

Cael mynediad at ofal a chymorth GIG Cymru ar ôl llawdriniaeth bariatrig breifat

 

Datganiad Sefyllfa ar gyfer BIP CTM

Mae BIP CTM wedi datblygu ein datganiad sefyllfa yn seiliedig ar farn timau meddygaeth, fferylliaeth, gofal sylfaenol, gwasanaeth rheoli pwysau a Iechyd y Cyhoedd CTM.

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2024/005 ynghylch cleifion sydd wedi cael llawfeddygaeth Bariatrig breifat a rôl GIG Cymru. Dywed Llywodraeth Cymru:

  • “Mae gofal brys i gleifion y sector preifat yn nwylo’r GIG os bydd y claf yn cyflwyno i wasanaethau’r GIG.”
  • “Os na all claf bariatrig ôl-lawdriniaethol, neu os bydd yn dewis peidio â chael apwyntiad dilynol yn y sector preifat, gall y meddyg teulu atgyfeirio i ofal eilaidd, ar gyfer apwyntiad dilynol ôl-lawdriniaethol lefel 3/4 arbenigol yn unol â chanllawiau Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE).”

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru (WIMOS) yn cael ei gomisiynu i ddarparu llawfeddygaeth Bariatrig gan gynnwys apwyntiad dilynol ar ôl llawdriniaeth am gyfnod o 2 flynedd. Nid yw gwasanaeth rheoli pwysau BIPCTM yn darparu'r gwasanaeth hwn.

Mae BIP CTM felly'n cynghori pob meddyg teulu sy’n dod ar draws cleifion bariatrig ôl-lawdriniaethol preifat â chymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth, a/neu’r rhai sy’n dymuno cael mynediad at fonitro ac atchwanegiadau drwy’r GIG yn hytrach na thrwy eu darparwr preifat i’w hatgyfeirio at WIMOS am asesiad a chymorth drwy:

Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru (WIMOS)
Ysbyty Treforys
Treforys
Abertawe
SA6 6NL
Ffôn: 01792 545771

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu'r goblygiadau i wasanaeth WIMOS lefel 4 a gwasanaethau lefel 3 ledled Cymru o ganlyniad i Gylchlythyr Cymru.

Darllen a lawrlwytho copi o’n taflen gwybodaeth cleifion ‘Meddwl am gael llawfeddygaeth bariatrig breifat?’.

Mae fersiwn hygyrch o'r daflen hefyd ar gael.

Meddwl am gael Llawfeddygaeth Bariatrig Breifat?

Mae niferoedd cynyddol o bobl sy'n byw dros bwysau neu'n ordew yn talu'n breifat i gael llawdriniaeth yn y DU a thramor. Os ydych chi'n meddwl am yr opsiwn hwn, gwnewch eich ymchwil yn gyntaf i sicrhau y bydd y gwasanaeth rydych chi'n ei brynu yn cwrdd â'ch anghenion a'ch disgwyliadau.

Pa ofal a chymorth y dylech chi gael mynediad iddyn nhw cyn y llawdriniaeth?

Rydym yn argymell y dylai pob claf sy'n ceisio llawdriniaeth bariatrig fod wedi'i baratoi'n ddigonol ar gyfer y driniaeth. Mae hyn yn cynnwys gwneud y gorau o'ch diet a'ch arferion bwyta cyn llawdriniaeth, gan sicrhau eich bod yn gallu nodi newyn a llawnder corfforol, gwneud yn siŵr bod eich disgwyliadau o amgylch y llawdriniaeth yn realistig, a gwneud yn siŵr eich bod yn barod yn seicolegol ar gyfer y driniaeth.

Rydym yn argymell bod unrhyw un sy’n ceisio llawdriniaeth bariatrig breifat yn paratoi ar gyfer llawdriniaeth, naill ai gyda darparwr llawfeddygol preifat, neu drwy ddeunydd hunangymorth. Un testun hunangymorth da rydym yn argymell i gleifion y GIG sy'n ceisio llawdriniaeth bariatrig yw 'Living with Bariatric Surgery: Managing your Mind and your Weight’ gan Denise Ratcliffe. Mae'r llyfr hwn yn cynnwys gwybodaeth a gweithgareddau ar baratoi ar gyfer llawdriniaeth, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer parhau â'ch cynnydd ar ôl llawdriniaeth.

Teithio Dramor ar gyfer Llawfeddygaeth Bariatrig?

Bydd angen i chi wneud y trefniadau eich hun, gan gynnwys dod o hyd i ddarparwr gofal iechyd a gwneud y trefniadau teithio. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod gennych yswiriant digonol. Ni fydd y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant teithio yn yswirio triniaeth wedi’i chynllunio dramor, felly efallai y bydd angen yswiriant arbenigol arnoch.

Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig gwneud eich ymchwil a chasglu digon o wybodaeth i wneud dewis gwybodus. Dylech ystyried:

  • Unrhyw rwystrau iaith posibl
  • P'un a ydych yn gwybod digon am y bobl a fydd yn eich trin a'r cyfleusterau sydd ar gael
  • Pa ofal iechyd a chymorth sydd ar gael pan fyddwch yn dychwelyd adref
  • Cyfathrebu rhwng staff meddygol dramor ac yn y DU, fel eich cofnodion meddygol, adroddiad rhyddhau'r claf ac unrhyw wybodaeth feddygol a maethol berthnasol arall
  • Sut i wneud cwyn os aiff pethau o chwith – nid yw GIG Cymru yn atebol am esgeulustod neu fethiant triniaeth a gyrchir yn breifat

Mae GIG y DU wedi datblygu rhestr wirio ar gyfer triniaeth dramor a gwybodaeth bellach a all eich helpu i fod yn drefnus a darparu gwybodaeth am rywfaint o'r risg dan sylw.

Pa ofal a chefnogaeth fyddwch chi'n eu cael ar ôl y llawdriniaeth?

Mae'n bwysig bod gennych gynllun 'ôl-ofal' (dilynol) clir y rydych chi wedi cytuno arno cyn i chi drefnu i gael llawdriniaeth yn breifat. Gall cael cynllun ôl-ofal yn ei le cyn llawdriniaeth helpu i atal cymhlethdodau posibl, fel diffyg maeth neu broblemau gastroberfeddol a all arwain at afiechyd difrifol os caiff ei anwybyddu.

Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn argymell y dylid darparu ôl-ofal bariatrig am 2 flynedd ar ôl llawdriniaeth.

Mae ôl-ofal bariatrig yn ystyried eich iechyd cyffredinol, monitro eich cymeriant maethol ar ôl llawdriniaeth, adolygu unrhyw feddyginiaeth neu atchwanegiadau maethol y gallai fod eu hangen arnoch, yn ogystal â chynnig asesiad, cyngor a chymorth dietegol, seicolegol a chorfforol wedi'u teilwra'n unigol.

Fel arfer, y cwmni sy'n cynnal eich llawdriniaeth breifat sy'n darparu ôl-ofal. Os ydych yn ystyried cael triniaeth dramor, efallai y bydd angen i chi nodi darparwr preifat yn y DU a all ddarparu'r gwasanaeth hwn yn y DU i chi.

Sut byddwch chi'n rhannu eich cofnodion iechyd?

Os ydych yn cael llawfeddygaeth Bariatrig yn breifat, rydym yn argymell eich bod yn gofyn i'ch darparwr triniaeth ddarparu copi o'ch crynodeb rhyddhau, cynllun ôl-ofal ac unrhyw wybodaeth a dogfennau meddygol a maethol perthnasol eraill rydych chi wedi rhoi iddyn nhw. Os ydych yn cael llawdriniaeth dramor, gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth hon ar gael i chi yn Gymraeg neu Saesneg.

Cael mynediad at ofal a chymorth GIG Cymru ar ôl llawdriniaeth

Os oes angen gofal brys arnoch yn dilyn eich llawfeddygaeth Bariatrig breifat, bydd GIG Cymru yn rhoi'r gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnoch.

Os nad oes gennych becyn ôl-ofal yn ei le a bod angen monitro a chymorth iechyd parhaus arnoch, nodwch nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu gwasanaethau ôl-ofal arferol. Os oes angen ôl-ofal arnoch, gall eich meddyg teulu wneud atgyfeiriad i'r gwasanaeth Cymru gyfan sy’n cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae rhestr aros sylweddol i gael mynediad at y gwasanaeth hwn.

Cofiwch: Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud gwaith ymchwil perthnasol a cheisio cyngor digonol i sicrhau y gellir gwneud dewis gwybodus ar gredadwyedd a diogelwch y darparwr sy'n darparu eich triniaeth boed yn y DU neu dramor. Mae gwybodaeth ddefnyddiol wedi'i chynllunio ar gyfer cleifion am lawfeddygaeth Bariatrig ar wefan Cymdeithas Gordewdra a Llawfeddygaeth metabolig Prydain.

Dilynwch ni: