Oherwydd y sefyllfa sydd ohoni gyda COVID-19, mae’r ffordd rydyn ni’n darparu gofal yn y Gwasanaeth Trawma ac Orthopaedeg wedi bod yn gyfyngedig ers mis Mawrth 2020.
Mae Gwasanaeth y Clinig Torasgwrn yn cael ei gynnal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd y tîm dan arweiniad ymgynghorydd yn cynghori ynghylch atgyfeiriadau brys o’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, yr Uned Mân Anafiadau, y Gwasanaeth Ffisiotherapi Acíwt a meddygon teulu. Dydy'r tîm ddim yn ymateb i unrhyw ymholiadau unigol gan gleifion.
Mae modd cynnal apwyntiadau dilynol dros y ffôn os bydd y claf (neu'r rhiant) yn hunan-ynysu.
Mae’n bosib y bydd y Bwrdd Iechyd yn dewis peidio cynnal llawdriniaeth ar rai mathau o anafiadau os yw’r risg y bydd y claf yn dal COVID-19 neu haint yn sgil mewnblaniad ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty yn rhy fawr. I’r anafiadau hyn, mae’n bosibl y bydd angen i’r Bwrdd Iechyd gynnal y llawdriniaeth yn hwyrach ymlaen pan fydd yn ddiogel.
Dim ond achosion trawma brys mae’r gwasanaeth yn eu derbyn ar hyn o bryd, ac eithrio nifer fach o achosion clinigol ddifrys lle bynnag y bo hyn yn bosib. Does dim llawdriniaeth arferol ar y cymalau’n cael ei chynnal ar hyn o bryd. Mae rhai llawdriniaethau mawr ar y cymalau ar gyfer cleifion brys sydd wedi aros am amser hir yn cael eu cynnal mewn canolfannau eraill. Os byddwch chi'n addas ar gyfer yr opsiwn hwn, bydd tîm y rhestrau aros yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth.
Os oes unrhyw ymholiadau brys gyda chi sy’n ymwneud â chyfyngiadau’r gwasanaeth, gweler y manylion cyswllt isod:
Am unrhyw broblemau o ran trafnidiaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ambiwlans.