Os dydych chi ddim yn siŵr lle gallwch chi gael cymorth am salwch, mân anhwylder neu anaf eich plentyn, cymerwch olwg dros y poster hwn gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, sy’n egluro’n glir pryd y dylai rhieni geisio cyngor ac o ble. Mae’r poster i’w weld yma.
Mae modd defnyddio gwasanaethau paediatrig brys o hyd ar draws tri ysbyty yn ardal BIP Cwm Taf Morgannwg, sef: Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Tywysoges Cymru. Bydd un rhiant yn cael aros gyda’r plentyn ar bob adeg.
Gweler y poster isod am gyngor a rhifau cyswllt.