Yn anffodus, mae pob apwyntiad i gleifion allanol newydd ac apwyntiad dilynol wedi cael eu canslo. Mae’r ymgynghorwyr yn bwrw golwg dros nodiadau cleifion, a byddan nhw’n cysylltu â llawer o’r cleifion hyn dros y ffôn i drafod y ffordd ymlaen. Os bydd angen i gleifion gael ymgynghoriad wyneb yn wyneb, mae trefniadau wedi eu gwneud i glinigau Gastroenteroleg ad hoc gael eu cynnal yn Adran Cleifion Ysbyty Cwm Cynon/ Ysbyty Cwm Rhondda yn ôl yr angen.
I gleifion sy’n cymryd cyffuriau atal imiwnedd ac sydd fel arfer yn derbyn y rhain yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, mae’r gwasanaeth ar gael o hyd yn Ysbyty Dewi Sant Rydyn ni’n cysylltu â chleifion i gynnig apwyntiadau iddyn nhw sydd mor agos â phosibl at y dyddiad pan fyddan nhw fel arfer yn cael eu cyffur atal imiwnedd. Gall cleifion gysylltu â’r Nyrsys Clefyd Llidus y Coluddyn hefyd os bydd unrhyw ymholiadau neu bryderon gyda nhw trwy ffonio 01443 443099 (ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Siarl, ffoniwch 01685 728767).
Ar gyfer ardal Ysbyty Tywysoges Cymru, ffoniwch 01656 752487 (switsfwrdd) am Shiree Bissmire, Uwch-ymarferydd Nyrsio, neu cysylltwch â Thîm yr Ysgrifenyddion ar 01656 754096/754096 rhwng 8am a 5pm.
Mae’r gwasanaeth draenio asgitig i gleifion gyda Chlefyd Afu Anghyfadferol (Decompensated Liver Disease) wedi ei symud dros dro i’r Ganolfan Atgenhedlu a Gynaecoleg yn Llantrisant. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu o hyd gan y Tîm Nyrsio Clinigol Arbenigol ar gyfer Hepatitis C.