Mae’r wybodaeth ganlynol yn yr adran hon:
O ystyried maint a chymhlethdod y Bwrdd Iechyd Prifysgol, mae’n hollbwysig bod polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau ar waith ac mae’n rhaid i’r holl staff gadw atynt er mwyn sicrhau perfformiad priodol a lleihau digwyddiadau niweidiol.
Mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau ar waith ar draws pob maes o fusnes y bwrdd iechyd gan gynnwys corfforaethol, gofal clinigol a chyflogaeth. Defnyddir y rhain i ddarparu arweiniad a safonau i staff y BIP.
Mae polisïau a gweithdrefnau cymeradwy’r Bwrdd Iechyd i’w gweld yn polisïau a gweithdrefnau ar y wefan. Mae’r polisïau a gweithdrefnau ar gyfer trin ceisiadau am wybodaeth hefyd i’w gweld yn yr adran hon.
Gallwch chi hefyd weld Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog y Bwrdd Iechyd.
Bydd polisïau a gweithdrefnau yn cael eu hychwanegu at y wefan ar ôl iddynt gael eu hadolygu a’u diweddaru. Os bydd angen gwybodaeth arnoch chi yn y cyfamser, cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol.
Bydd polisïau a gweithdrefnau'n cael eu hychwanegu at y wefan ar ôl iddynt gael eu hadolygu a’u diweddaru. Os bydd angen gwybodaeth arnoch chi yn y cyfamser, cysylltwch â ’r Adran Adnoddau Dynol..
Mae pob cyfle cyflogaeth yn cael ei hysbysebu drwy NHS Jobs.
Bydd polisïau a gweithdrefnau yn cael eu hychwanegu at y wefan ar ôl iddynt gael eu hadolygu a’u diweddaru.
Yn yr adran hon mae manylion yr Adroddiadau Cydraddoldeb.
I gael mwy o wybodaeth am gydraddoldeb, cysylltwch â'r Adran Cydraddoldeb.
Mae asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cwblhau fel rhan o’r broses o ddatblygu polisi a byddan nhw ar gael ynghyd â’r polisi unigol sy’n cyd-fynd â nhw.
Am fwy o wybodaeth am Gynllun yr Iaith Gymraeg, cysylltwch ag Uned y Gymraeg.
Mae manylion ynglŷn â sut i wneud cwyn yn ogystal â’r dogfennau perthnasol.
Mae Polisi Llywodraethu Gwybodaeth Cymru Gyfan i’w weld yn polisïau a gweithdrefnau. Os bydd angen gwybodaeth arnoch yn y cyfamser, cysylltwch â Chydlynydd y Cynllun Cyhoeddi.
Mae manylion Strategaeth Ystadau’r Bwrdd Iechyd i’w gweld.
Gall y Bwrdd Iechyd godi ffi pan ofynnir am wybodaeth. Gweler ein hadran ffioedd am wybodaeth am ragor o fanylion.