Mae’r wybodaeth ganlynol yn yr adran hon:
Mae manylion y Cyfrifon Blynyddol ac Adroddiadau Blynyddol ar gael ar ein gwefan. Mae Cynlluniau Tymor Canolig Integredig (Cynlluniau 3 Blynedd) y Bwrdd Iechyd yn amlinellu cynlluniau’r sefydliad o ran gwariant ac yn cynnwys y prif risgiau i’r cynllun ariannol. Mae’r adroddiadau amrywiant yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad ariannol ym mhob Cyfarfod o'r Bwrdd.
Mae manylion yr adroddiadau archwiliadau ariannol yn cael eu cynnwys ym mhapurau cyfarfodydd o’r Bwrdd.
Mae'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog ar gael ar ein gwefan.
Mae manylion lwfansau a chostau staff uwch ac aelodau o’r Bwrdd yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiadau Blynyddol.
Mae cyflogau staff uwch yn cael eu cynnwys yn yr adroddiadau blynyddol. Cytunir ar amrediadau cyflog staff yn unol â graddfeydd cyflog yr Agenda ar gyfer Newid yng Nghymru.
Mae gwybodaeth am gyllid yn cael ei chynnwys yn yr Adroddiadau Blynyddol.
Er mis Ebrill 2011, cyflawnir swyddogaeth gaffael y Bwrdd Iechyd trwy drefniant partneriaeth gan gangen Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Mae'r holl fanylion sy'n ymwneud â gweithdrefnau caffael a thendro ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau wedi'u nodi yng Nghyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog (SFIs) y Bwrdd Iechyd. Mae mwy o fanylion am y gweithdrefnau caffael a thendro ar gael ar wefan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Mae manylion y contractau sy'n cael eu tendro ar hyn o bryd ar gael trwy'r dolenni gwe canlynol: