Neidio i'r prif gynnwy

Swydd wag: Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (dyddiad cau: 16 Mehefin 2021)

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn chwilio am Gadeirydd newydd ar y Bwrdd Iechyd.

Marcus Longley yw Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar hyn o bryd ac mae ei dymor yn y swydd yn dod i ben ym mis Medi 2021. Felly, rydym yn annog ceisiadau am rôl y Cadeirydd newydd, a fydd yn dechrau ym mis Hydref.

Os oes gennych ddiddordeb, mae rhagor o fanylion (gan gynnwys swydd ddisgrifiad) ar dudalen Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma. Os hoffech drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r rôl gyda naill ai Prif Weithredwr neu Gadeirydd presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, e-bostiwch y Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol ar Georgina.galletly2@wales.nhs.

Mae'r Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a'r gwaith o’i lywodraethu’n effeithiol. Yn ogystal â hynny, bydd yn gyfrifol am gynnal gwerthoedd y GIG, a hybu hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled ardal y Bwrdd Iechyd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am ar 28 Mehefin 2021.

Bydd cyfweliadau a digwyddiad cysylltiedig i randdeiliaid yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 9 Awst 2021.