Neidio i'r prif gynnwy

Meithrin cysylltiadau teuluol – Gofalu am bobl hŷn

Roedd ein tîm iechyd meddwl i bobl hŷn o Glinig Angelton ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal bore coffi ar lein yn ddiweddar, i ddod â staff yr uned a theuluoedd yn y gwasanaeth ynghyd. 

Roedd teuluoedd wedi cael y cyfle i drafod heriau’r pandemig, effaith cyfyngiadau ar ymweliadau i bobl gyda Dementia, a’r newidiadau nad oedden nhw’n gallu bod yn rhan ohonyn nhw oherwydd y cyfnod clo a COVID.

Dywedodd Sophie Bassett, Uwch-nyrs Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn, “Roedd y sesiynau wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi bod staff yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â theuluoedd, a’u bod yn sensitif ac yn ofalgar bob amser. Dywedodd un aelod o deulu a ddaeth i’r sesiwn bod y tîm yn Angelton wedi rhoi cymaint o gysur yn ystod yr adegau anodd hyn a’u bod yn ymddiried yn y tîm yn gyfan gwbl. Roedd hyn wedi codi calon y tîm yn fawr.

“Yn dilyn y cyfarfod, byddwn ni’n creu ystafell ymweld fel bod lle preifat, cyfforddus ac arbennig lle gall pobl dreulio amser gyda’r teulu. Byddwn ni hefyd yn rhoi mwy o gymorth o ran cynllunio i ryddhau cleifion a gwneud penderfyniadau.

Oherwydd llwyddiant mawr y digwyddiad, bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal bob mis bellach. 

Dyma ddywedodd un aelod o deulu: “Diolch yn fawr iawn i bawb am drefnu’r cyfle hwn.  Roedd yn sesiwn gwerthfawr yr oedd pawb wedi ei fwynhau.  Mae gwaith caled ac ymroddiad chi a’ch tîm yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, yn enwedig ar yr adegau anodd hyn.

Roedd y tîm wedi cwblhau Adduned Dementia yn ddiweddar hefyd, sydd i’w gweld ar safle Angleton.

Dyma’r Adduned gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn Pen-y-bont ar Ogwr

  • Byddwn yn gwella sut rydym ni’n cyfathrebu â phob aelod o’r teulu ac â gwasanaethau, ac yn sicrhau bod pawb yn aros mewn cysylltiad
  • Byddwn yn sicrhau bod ein staff yn darparu gofal sy’n rhoi’r unigolyn yn gyntaf ac yn sicrhau ar yr un pryd bod gennym ni’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i gydnabod a chefnogi’r rhai sy’n byw gyda Dementia trwy gydol gwahanol gyfnodau eu taith
  • Byddwn yn datblygu gwasanaeth newydd lle mae pobl yn cael eu cefnogi nid yn unig yn y gymuned ac mewn ysbytai ond yn y Gwasanaeth Carchardai hefyd, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw fynediad di-dor i wasanaethau Dementia wrth ddarparu gofal sy’n urddasol ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Byddwn yn datblygu ac yn gwella ein hamgylchedd fel ei fod yn gyfeillgar i Dementia ac yn groesawgar i’n cleifion, a byddwn yn annog y defnydd o’n ystafelloedd thema ar gyfer gweithgareddau sy’n rhoi’r unigolyn yn gyntaf“Lansio ein canolfan ymwelwyr newydd sy’n gartrefol ac yn darparu’r holl gyfleusterau fyddai gyda chi gartref fel y gall cleifion a’u teuluoedd baratoi i adael ein gofal a chael blas go iawn ar fywyd gartref.”
  • Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn yn gyntaf, sy’n ystyrlon ac sy’n cadw ein cleifion wrth galon popeth a wnawn.