Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Merthyr Tudful yn treialu gwasanaeth Glawcoma lleol newydd y GIG

Cleifion Glawcoma ym Merthyr Tudful yw'r cyntaf i dreialu gwasanaeth asesu gofal sylfaenol newydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM). Dyma’r gwasanaeth cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae'r bwrdd iechyd wedi lansio'r gwasanaeth peilot yn Specsavers yn Sgwâr y Farchnad ym Merthyr Tudful, er mwyn ei gwneud hi mor hawdd a chyfleus â phosib i fonitro cleifion Glawcoma’r GIG yn lleol.

Gyda chyllid gan Gronfa Trawsnewid Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, aeth BIP Cwm Taf Morgannwg ati i brynu a gosod offer arbenigol yn y siop. Mae’r bwrdd iechyd wrthi’n ysgrifennu at bob claf cymwys, a daeth y claf cyntaf fis diwethaf.

Mae monitro Glawcoma pobl yn bwysig gan fod golwg pobl yn gallu dirywio gyda'r cyflwr os na fydd yn cael ei drin, a does dim modd gwrthdroi’r effeithiau hyn. Mae'r gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau bod cleifion isel eu risg yn cael eu hasesu mewn practisiau optegwyr lleol cyfleus, tra bydd y rheiny sydd mewn mwy o berygl yn parhau i fynd i’w clinigau llygaid yn yr ysbyty.

Bydd optometrydd yn asesu cleifion isel eu risg yn Specsavers ym Merthyr Tudful, a bydd y canlyniadau'n cael eu rhannu mewn amser real â gwasanaeth offthalmoleg arbenigol CTM dan arweiniad meddygon ymgynghorol, er mwyn iddyn nhw eu hadolygu. Os bydd unrhyw ddirywiad i’w weld, bydd y tîm yn trefnu i'r claf weld ymgynghorydd mewn clinig llygaid yn yr ysbyty. Fel arall, bydd y claf yn parhau i gael ei adolygu'n rheolaidd yn lleol.

Y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio i rannu gwybodaeth cleifion yw’r cyntaf o’i math ym maes gofal iechyd llygaid yn y DU. Mae fideos a sganiau llawn o’r nerf optig, y macwla a meysydd gweledol sy’n cael eu creu yn ystod asesiad ar gael ar unwaith i’r arbenigwyr yn yr ysbyty i’w hadolygu.

Erbyn hyn, mae’r gwasanaeth ym Merthyr Tudful yn cael ei gynnal ar wahanol adegau, gan gynnwys ar benwythnosau. Y bwriad yw cyflwyno gwasanaeth peilot tebyg dros y ddau fis nesaf yn Davies & Jones Optometrists yn y Porth ac yng Nghanolfan Optegol Tonysguboriau ac Aberpennar. Yna, yn dibynnu ar ei lwyddiant, bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn ar ôl mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Nod y gwasanaeth yw darparu'r gofal gorau a’r gofal mwyaf priodol ac amserol i gleifion. Bydd cleifion isel eu risg yn cael apwyntiadau mwy cyfleus tra eu bod nhw’n parhau dan ofal offthalmolegwyr y GIG, a bydd cleifion Glawcoma uchel eu risg yn dal i fynd i glinigau llygaid yn yr ysbyty. Drwy hyn, bydd pob claf yn cael ei weld yn gyflymach. Mae’n bosib asesu tua 4,000 o gleifion Glawcoma yn yr ardal CTM yn effeithiol yn y gymuned.

Cafodd y prosiect ei arwain gan ymgynghorydd offthalmig locwm Cwm Taf Morgannwg, Andrew Feyi-Waboso. Dywedodd fod gofal Glawcoma ar y cyd yn dod â gofal rhagorol yn nes at y cleifion sydd ei angen.

"Mae adborth y cleifion yn gadarnhaol iawn," meddai.

"Mae'r gwasanaeth yn defnyddio capasiti a sgiliau optometryddion lleol yn y gymuned i ysgafnhau'r baich ar ofal eilaidd, ac yn galluogi rhannu gwybodaeth cleifion â thechnoleg fodern gan roi gofal llygaid di-dor ac amserol o ansawdd uchel i gleifion. Fel hyn, gall ysbytai ganolbwyntio ar weld cleifion uchel eu risg, gan wybod bod cleifion isel eu risg yn cael eu gweld yn brydlon yn y gymuned.

"Hwn yw dyfodol gofal Glawcoma, a byddwn ni’n arwain y model gwasanaeth hwn yma yng Nghymru."

Cyflawnodd yr optometrydd Kelly Pitchford, sy'n cynnal yr asesiadau yn Specsavers ym Merthyr Tudful, leoliad chwe mis o hyd gyda Mr Feyi-Waboso yn rhan o'i chymhwyster Glawcoma arbenigol. Mae angen hwn er mwyn cynnal y profion yn y practis.

"Mae hwn yn wasanaeth mor bwysig i’r cleifion y mae angen eu hasesu'n drylwyr bob blwyddyn er mwyn iddyn nhw osgoi colli eu golwg," meddai.

"Ar ôl i gleifion gael y diferion llygaid sy’n cael eu rhoi iddyn nhw yn ystod y prawf, fyddan nhw ddim yn gallu gyrru am bedair awr, felly mae cyfleustra’n ffactor bwysig, gan fod rhaid trefnu i rywun arall fynd â nhw i’r apwyntiad. Oherwydd hyn, maen nhw wedi bod yn hapus iawn dod yma ar gyfer eu clinig, sydd gymaint yn nes at eu cartref."

Monica James o Drecynon oedd un o'r cleifion cyntaf gafodd ei hasesu yn Specsavers.

"Roedd rhaid i mi gael diferion, felly ces i lifft i fy apwyntiad heddiw gan fy ngŵr. Roedden ni'n gallu parcio'n hawdd a doedd hi ddim yn rhy bell i gerdded," meddai.

"Mae'n braf gwybod bod y profion wedi mynd yn syth i’r ysbyty ac mae’n wych dod yma. Mae'n arbed yr holl strach o deithio i'r ysbyty."

Bydd cleifion Glawcoma lleol y GIG sy'n addas ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn yn gallu disgwyl llythyr gan BIP CTM, fydd yn esbonio'r trefniadau newydd ar gyfer eu hasesiadau. Ar ôl hynny, bydd yr optegwyr lleol yn cysylltu â nhw i drefnu apwyntiad cyfleus.

Beth yw Glawcoma?

  • Cyflwr cyffredin ar y llygaid yw Glawcoma pan fydd y nerf optig, sy'n cysylltu'r llygad â'r ymennydd, yn cael ei difrodi
  • Mae hyn yn gallu arwain at golli golwg os na fydd yn cael diagnosis cynnar nac yn cael ei drin yn gynnar.
  • Mae’n gallu effeithio ar bobl o bob oed, ond oedolion yn eu 70au a'u 80au sy’n ei ddioddef gan amlaf.

Symptomau Glawcoma

  • Dydy Glawcoma ddim fel arfer yn achosi unrhyw symptomau i ddechrau. Fel arfer, bydd yn datblygu'n araf dros lawer o flynyddoedd ac yn effeithio ar eich golwg perifferol yn gyntaf.
  • Yn aml, dim ond yn ystod prawf llygaid arferol y bydd hyn cael ei weld.
  • Heb ei drin, mae’n gallu arwain at fynd yn ddall.

Profion ac asesiadau rheolaidd

  • Mae diagnosis cynnar a thriniaeth gynnar yn gallu helpu i atal eich golwg rhag mynd yn waeth.
  • Mae'n bwysig iawn felly eich bod chi’n cael prawf llygaid bob dwy flynedd, neu'n gynt os ydych chi’n pryderu o gwbl am eich golwg.
  • Mae modd cynnal sawl prawf cyflym a di-boen er mwyn chwilio am Glawcoma
  • Dydy hi ddim yn bosib gwrthdroi unrhyw nam ar y golwg sydd wedi ei achosi cyn i chi gael diagnosis o Glawcoma, ond gall triniaeth helpu i atal eich golwg rhag mynd yn waeth.
  • Mae'n bwysig cael apwyntiadau rheolaidd er mwyn monitro'r cyflwr

Os oes unrhyw bryderon gyda chi ynglŷn â’ch golwg, dylech chi gysylltu â’ch optegydd lleol neu eich meddyg teulu.