Neidio i'r prif gynnwy

Helpu Anwylyd i Adael yr Ysbyty i Wella

Mae angen i rai cleifion sy'n ddigon iach i gael eu rhyddhau o'r ysbyty gael cymorth parhaus yn y gymuned neu gartref i'w galluogi i barhau i wella. Ar gyfer y cleifion hyn, mae ein timau'n gweithio gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdod lleol i sicrhau eu bod yn cael gofal addas yn y gymuned.

Mae parhau i wella y tu allan i'r ysbyty, gyda'r gofal a'r cymorth cywir, yn llawer gwell nag aros yn yr ysbyty am nifer o resymau. Yn bwysicaf oll, mae'n eich helpu i aros yn annibynnol, cadw’r cryfder yn eich cyhyrau a lleihau’r risg y byddwch chi’n cael haint. Mae hefyd yn caniatáu i ni ddarparu gwely y mae mawr ei angen i rywun arall sy’n sâl iawn ac sydd angen gofal brys ar adeg pan fo prinder gwelyau yn her sylweddol i ni.

Ar hyn o bryd, efallai y bydd rhai cleifion sy'n barod i gael eu rhyddhau yn cael trefniant gofal interim cyn cael yr opsiwn y maen nhw’n eu ffafrio. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n cael cymorth dros dro mewn cartref gofal gwahanol wrth aros am eu dewis gartref. Gwyddom efallai na fydd rhai cleifion neu eu teuluoedd bob amser yn hapus am hyn, ond gallwn ni roi sicrwydd iddyn nhw fod y pecynnau gofal sydd wedi'u trefnu ar gyfer ein cleifion yn ddiogel ac wedi'u cynllunio i ddiwallu eu hanghenion. Dim ond os yw ein timau meddygol yn argymell eu bod yn barod i adael yr ysbyty y byddwn ni’n rhyddhau cleifion.  

Felly, o heddiw ymlaen, byddwn ni’n siarad â’r cleifion hyn neu eu teuluoedd, ac yn darparu llythyrau a fydd yn nodi, gan fod opsiwn addas i barhau â’u gwellhad yn eu cymuned, y dylen nhw dderbyn y pecyn gofal hwn. Os, pan fydd cleifion yn derbyn gofal yn y gymuned, y byddan nhw neu eu teulu yn dymuno i gynlluniau gofal eraill gael eu sefydlu, yna bydd ein cydweithwyr yn yr awdurdod lleol yn gallu helpu gyda hyn.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod cleifion yn y lle cywir ar yr amser cywir i gael y gwellhad gorau posibl a’n bod yn gallu trin y rhai sydd angen gofal ysbyty ar frys ar yr un pryd yn ystod y cyfnod heriol hwn. Diolch am ddeall. Os oes gan gleifion neu aelodau o'r teulu unrhyw gwestiynau, gallan nhw siarad â'r nyrs wrth y llyw neu eu meddyg ymgynghorol.

#HelpwchNiIchHelpuChi

 

 

23/12/22