Neidio i'r prif gynnwy

Roedd y Rhaglen Addysg i Gleifion wedi achub fy mywyd

Pan gytunodd Julie Jackson i gymryd rhan yn y Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP), roedd hi mewn lle tywyll ac roedd yn amheus ganddi a fyddai'n helpu. 

Roedd ei phriodas mewn trafferthion, roedd wedi colli ei swydd ac roedd ei mam wedi marw, yn fuan cyn i’w thad farw hefyd. 

Roedd yn teimlo nad oedd unrhyw ffordd allan, felly cymerodd Julie orddos a daethpwyd o hyd iddi yn y stryd. Deffrodd yn yr ysbyty ac ar ôl i'w ŵyr bledio gyda hi, cytunodd ei bod angen iddi geisio cymorth. 

Cyfeiriodd ei chynghorydd hi at y Rhaglen Addysg i Gleifion ac er ei bod yn cyfaddef iddi orfod magu dewrder cyn mynd, roedd hi'n teimlo’n sicr ei bod ar y trywydd iawn erbyn diwedd y cwrs , ac mae bellach yn rhedeg cyrsiau addysg i gleifion ei hun er mwyn iddi allu helpu eraill. 

“Dydy hi ddim yn ormodiaith dweud bod y cwrs hwn wedi achub fy mywyd,” meddai Julie, 56, o Abercynon. “Roeddwn i mewn cyfnod tywyll iawn yn fy mywyd ac wedi fy llethu â galar. Roeddwn wedi cael fy atgyfeirio at gwnselydd a awgrymodd y dylwn i roi cynnig ar y rhaglen Addysg i Gleifion, ac er gwaethaf fy amheuon, meddyliais i nad oedd dim byd gyda fi i’w golli. 

“Roeddwn yn crynu pan es i i mewn i fy sesiwn gyntaf a ddywedais i ddim gair o fy mhen, yna daeth rhywun ar y cwrs daw ataf i a dweud 'paid becso, fe ddown ni trwy hyn gyda'n gilydd'. Roeddwn i'n gwybod bryd hynny nad oeddwn i ar fy mhen fy hun a thros gyfnod y cwrs ces i fy hyder a fy hunan-barch yn ôl. " 

Nod Time 4 Me Cwm Taf Morgannwg yw helpu pobl â chyflyrau hirdymor i reoli eu hiechyd a'u lles. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n dioddef o orbryder ac iselder, poen gronig a diabetes. 

Mae’r cyrsiau wedi cael eu datblygu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion, ac maen nhw’n cynnwys sesiynau dwy awr a hanner unwaith yr wythnos am chwe wythnos. 

Mae’r sesiynau dan arweiniad pobl sydd wedi cael eu hyfforddi, ac sydd wedi byw gyda chyflwr hirdymor eu hunain (neu sy’n cael eu heffeithio gan rywun gyda chyflwr o’r fath). 

Nod y cwrs yw gwella hyder y cyfranogwyr yn eu gallu i reoli eu hiechyd ac i fyw bywydau egnïol a boddhaus. 

Mae’r cyrsiau yn gyffredinol yn canolbwyntio ar nifer o agweddau gwahanol sy’n benodol i gyflyrau, fel y canlynol: 

  • Dulliau a thechnegau i ddelio â phroblemau fel blinder, poen, teimlo’n ynysig, iselder a gorbryder. 

  •  Cyngor am ymarfer corff er mwyn aros yn gryf ac yn iach 

  • Cymorth i wneud penderfyniadau a rheoli triniaethau, meddyginiaeth a therapïau 

  • Ffyrdd o wella eich anadlu ac o ymlacio 

  • Gwybodaeth am fwyta’n iach a chadw pwysau dan reolaeth 

  • Cymorth gyda gosod nodau, cynlluniau gweithredu a chynllunio ar gyfer y dyfodol  

I Julie, y technegau a'r cynlluniau gweithredu a wnaeth y gwahaniaeth go iawn. 

Meddai, “Roedd y technegau tynnu sylw a’r awgrymiadau cysgu ac ymarfer corff yn hynod ddefnyddiol. Es i o beidio eisiau codi o'r gwely i ddechrau gwneud gwelliannau yn araf, trwy gamau bach, gyda chefnogaeth cynllun gweithredu, a dechreuais deimlo fel fi fy hun eto. 

“Erbyn diwedd y cwrs, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gwirfoddoli i ddysgu sut i redeg cwrs a helpu eraill fel roedd wedi fy helpu i. Mae hyn wedi newid fy agwedd yn llwyr ac rydw i eisiau helpu eraill i wybod y gallwch chi gyrraedd yno. ” 

Mae Cydlynydd Rhaglen Addysg i Gleifion Cymru Debra Moore, sy’n cynnal cyrsiau ers chwe blynedd ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr, eisiau annog mwy o bobl i gymryd rhan. 

Meddai Debra, Cydlynydd Rhaglenni Addysg i Gleifion Cymru sydd wedi bod yn rhedeg cyrsiau am chwe blynedd: “Yn aml, all pobl ddim gweld ar ddechrau’r cwrs sut y gallai fod o fudd iddyn nhw, ond dros amser maen nhw’n dechrau deall eu bod nhw ddim ar eu pennau eu hunain, a bod pethau’n gallu gwella o gael help.  

“Mae am herio meddylfryd yn aml a dangos y gall newid bach hyd yn oed ddod â manteision, hyd yn oed os yw hyn yn golygu dechrau ymarfer corff ysgafn neu ddod o hyd i ffyrdd o gadw’r boen dan reolaeth. 

“Mae hyn yn ei dro yn arwain fel arfer at ostyngiad yn nifer yr apwyntiadau i weld meddyg teulu, gan fod pobl yn teimlo’n gryfach ac maen nhw hefyd yn deall bod ffynonellau eraill o help ar gael yn y gymuned, fel eu fferyllydd lleol.”  

“ Pan mae pobl yn cyrraedd wythnos chwech ac yn gweld y newid, mae'n anhygoel! Maen nhw'n cwrdd fel dieithriaid ac yn gadael fel ffrindiau gyda bywyd newydd. ” 

Mae’r cyrsiau hyn yn enghraifft gwych o’r gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned, sydd oll yn cael eu hyrwyddo yn rhan o ymgyrch #EichTîmLleol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.  

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am yr ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol all helpu cleifion heb orfod mynd i weld meddyg teulu. 

Gall pob cwrs Rhaglen Addysg i Gleifion gymryd hyd at 16 o bobl, ac mae llawer o’r rhai sy’n mynd ar y cyrsiau wedi cyfeirio eu hunain, neu wedi cael cyngor i fynd gan eu meddyg teulu neu eu canolfan byd gwaith leol. Mae tua 16 o gyrsiau addysg i gleifion yn cael eu cyflwyno yn y gymuned bob blwyddyn a bydd y cwrs nesaf, sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles, yn dechrau ar Orffennaf 6 ar-lein.  

I ganfod rhagor am Raglenni Addysg i Gleifion, chwiliwch am daflenni yn eich meddygfa leol, eich canolfan byd gwaith leol neu ewch i www.eppwales.org. 

* Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Watkins yn y tîm cyfathrebu ar 07854 386054 neu e- bostiwch Alison.watkins3@wales.nhs.uk