Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Dyfodol Iach Maesteg

Yr wythnos hon, bydd cam nesaf ein rhaglen gyffrous Dyfodol Iach Maesteg yn dechrau.

Ddechrau mis Ionawr, fe wnaethon ni gyfarfod â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol a chynrychiolwyr etholedig o bob rhan o Gwm Llynfi (gan gynnwys meddygon teulu lleol a thimau Gofal Sylfaenol), i ddechrau sgwrs am ddyfodol iechyd a gofal ym Maesteg. Casglwyd safbwyntiau helaeth ar ffyrdd o ddiwallu anghenion iechyd a gofal y boblogaeth leol yn well, gan gynnwys cynllun ar gyfer datblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol.

Gan ystyried yr holl adborth a gafwyd o’r gweithgarwch ymgysylltu estynedig, dyma'r pum prif flaenoriaeth iechyd a gofal a nodwyd ar gyfer Cwm Llynfi.  

Ar ddiwedd mis Mai 2023, byddwn ni’n cyfarfod â'r gymuned unwaith eto. Byddwn ni’n cynnal digwyddiadau gwybodaeth i drafod yr adborth ac i rannu cynnig lefel uchel a fydd yn amlinellu’r dyfodol posibl ar gyfer Ysbyty Maesteg, wedi'i lywio gan yr adborth a gafwyd gan y gymuned a rhanddeiliaid.  

Bydd manylion y digwyddiad yn dilyn y mis nesaf. Byddan nhw ar gael ar draws holl lwyfannau digidol CTM gan gynnwys tudalen we bwrpasol Dyfodol Iach Maesteg a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol (#DyfodolIachMaesteg ar Twitter).

 

31/03/2023