Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod cydweithio yn ystod y pandemig rhwng y Lluoedd Arfog a BIP CTM mewn cyflwyniad

Yr wythnos hon, roedd yn anrhydedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg  gael ei gydnabod am ei waith ar y cyd â’r Lluoedd Arfog yn ystod y pandemig.

Cafodd plac catrodol a thystysgrif o gydnabyddiaeth eu cyflwyno yn Ward A yn Ysbyty’r Seren, sef ysbyty maes a sefydlwyd ar ystâd ddiwydiannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i drin cleifion gyda COVID-19.

Cyflwynwyd y wobr gan yr Is-gyrnol Simon Midgley a'r Capten Gary Thomson, ill dau o'r Fyddin Brydeinig, a'r Swyddog Gwarant Mark Edwards, o'r Llynges Frenhinol.

Dywedodd y Capten Gary Thomson: “Mae hwn wedi bod yn un o’r cyfnodau mwyaf gwerthfawr yn fy ngyrfa yn y fyddin, gan gynnwys fy amser yn y fyddin barhaol. Byddaf yn ddiolchgar byth am broffesiynoldeb tîm Cwm Taf Morgannwg dros y flwyddyn ddiwethaf”.

Roedd Ysbyty’r Seren yn un o'r ysbytai maes prysuraf yn y DU yn ystod y pandemig, ac ar un adeg roedd Ward A yn trin bron i gant o gleifion. Diolch byth, mae Ward A bellach yn wag ac yn y broses o gael ei datgomisiynu.

Mae'n lleoliad hynod symbolaidd ar gyfer y cyflwyniad hwn, gan fod y Lluoedd Arfog wedi bod yn hanfodol ym mhob cam o greu’r ysbyty. Dyma un enghraifft yn unig o sut roedden nhw’n gwbl anhepgor yn ystod yr ymateb i COVID-19- o ddarpariaeth PPE i brofi a brechu, roedd arweinyddiaeth y Lluoedd Arfog yn hanfodol.

Derbyniodd Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y wobr ar ran y Bwrdd Iechyd. Dywedodd:

“Mae’n fraint derbyn y gydnabyddiaeth hon gan ein Lluoedd Arfog ar ran y Bwrdd Iechyd. Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio ochr yn ochr â nhw yn ystod y pandemig, ac rydyn ni'n hynod ddiolchgar am y gwaith caled, yr arbenigedd a'r ymroddiad maen nhw wedi'u dangos o'r cychwyn cyntaf.

“Mae sefyll mewn ysbyty maes fel hwn, a oedd ychydig dros hanner blwyddyn yn ôl yn adeilad gwag ar ystâd ddiwydiannol, yn brawf digamsyniol o ddifrifoldeb yr her a oedd yn eu hwynebu. Fe wnaethon nhw nid yn unig gyflawni’r her honno ond rhagori arni hefyd, gan ddarparu cefnogaeth, cymorth ac arweinyddiaeth a oedd yn amhrisiadwy wrth i ni fynd i'r afael ag argyfwng iechyd digynsail.

“Yn bwysicaf oll, fe wnaethon ni wynebu’r heriau hyn fel tîm. Rwy'n falch o beth rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd mewn amgylchiadau anhygoel o anodd, a hoffwn ddiolch i bob aelod o'r Lluoedd Arfog a gamodd i’r adwy i helpu pan oedd eu hangen fwyaf.”