Neidio i'r prif gynnwy

CTM yn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda BAPIO

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch iawn o fod wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda BAPIO (sef Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd a rhoi ei enw ffurfiol iddo).

Mewn digwyddiad ar-lein arbennig, ymunodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan a sefydliadau fel y Cyngor Meddygol Cyffredinol â chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd a BAPIO i dynnu sylw at bwysigrwydd adeiladu perthynas rhwng y Bwrdd Iechyd a BAPIO, ac i edrych ar sut y bydd y Memorandwm yn cryfhau ein hymrwymiad i’n huchelgeisiau ni ac uchelgeisiau BAPIO.

Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gweld y ddau sefydliad yn gweithio gyda'i gilydd i:

  • Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y BIP;
  • Cydweithio tuag at godi morâl staff;
  • Datblygu perthnasoedd yn y gwaith a fydd yn fodd o ddatrys materion sy'n peri pryder ynghylch aelodau unigol o BAPIO yn benodol, ac aelodau o staff BAME yn gyffredinol a
  • Cydweithio ar gyfer recriwtio a chadw staff clinigol yn y BIP.

Mae BAPIO eisoes wedi bod yn gweithio ar y materion hyn ers blynyddoedd lawer, ac mae llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ffurfiol gyda'n Bwrdd Iechyd yn arbennig o amserol wrth i ni ddod ynghyd i gefnogi staff ac ystyried sut rydym yn gwella yn dilyn effaith pandemig COVID-19.

Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol CTM: “Mae llofnodi'r Memorandwm hwn yn rhan bwysig iawn o’n hymrwymiad i gefnogi ein staff BAME a gweithio gyda BAPIO i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein sefydliad. Mae ein staff BAME yn cyfrannu cymaint i'n Bwrdd Iechyd ac i'n cymunedau, a thrwy ymgymryd â'r gwaith ar y cyd hwn, gallwn gryfhau'r gefnogaeth a ddarparwn iddyn nhw, yn enwedig yn dilyn cyfnod mor anodd iddyn nhw o ganlyniad i bandemig COVID-19."

Amlinellodd yr Athro Keshav Singhal, Cadeirydd BAPIO Cymru, hanes cryno y sefydliad dros y 25 mlynedd diwethaf a'i lwyddiant wrth dynnu sylw at yr agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Dywedodd fod BIP CTM wedi bod yn arbennig o ragweithiol wrth ymgysylltu â staff BAME wrth greu'r rhwydwaith BAME, a mynegodd ei hyder y bydd cydweithio rhwng BAPIO a’r rhwydwaith BAME wrth hyrwyddo pedair colofn y Memorandwm.

Dywedodd yr Athro Singhal fod BAPIO eisoes wedi arbed £20 miliwn i GIG Cymru mewn costau locwm gyda'i gynllun recriwtio MTI i Gymru gyfan, lle roedd BIP CTM wedi cymryd yr awenau a mynegi gobaith am berthynas adeiladol wrth gyflawni nodau ac amcanion y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sy’n arbennig o berthnasol i gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru. Diolchodd i'r Gweinidog am ei phresenoldeb a'i hanogaeth i'r broses.