Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau a wnaed gan y gymuned i'r gymuned gefnogi pobl sy'n agored i niwed ar ôl COVID 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch o rannu’r adnoddau ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ a ddatblygwyd gan Gwelliant Cymru a’i bartneriaid. Mae'r adnoddau ar gael i gefnogi pobl sydd wedi bod yn ei chael hi'n anodd gadael eu cartrefi ers i'r rheolau cyfyngiadau symud ddechrau cael eu llacio.  Mae'r rhain yn cynnwys pobl â dementia, pobl oedd gynt yn cysgodi, neu bobl sy'n agored i niwed.

Dechreuwyd y fenter yn Aberpennar ac fe’i crëwyd mewn partneriaeth â phobl leol, yr heddlu, asiantaeth wirfoddoli leol, trafnidiaeth leol, yr awdurdod lleol, y trydydd sector, iechyd a gofal cymdeithasol, siopau a busnesau, sy’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu’r deunyddiau ac i nodi’r rhai sydd angen help.  Mae partneriaid Yn ôl i Fywyd Cymunedol wedi darparu gwybodaeth i siopau ac amwynderau lleol i'w helpu i gefnogi'r heriau y gallai pobl eu hwynebu wrth iddynt fynd o gwmpas eu pethau.

Bydd yr adnoddau ‘Yn ôl i Fywyd Cymunedol’ yn cael eu rhannu â chymunedau ledled Cymru er mwyn iddynt gydlynu eu prosiectau eu hunain.  Ymhlith yr adnoddau mae canllawiau ar sut i baratoi, ymarfer sgiliau a theimlo’n hyderus i adael y tŷ, a’r hyn y dylid ei ddisgwyl o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed mewn siopau a chyfleusterau lleol yn ystod y pandemig, gan gynnwys gwybodaeth am ‘fannau diogel’ a chiwio â blaenoriaeth. 

Dywedodd Rebecca Hanmer, Uwch Reolwr Gwella yn Gwelliant Cymru, “Mae’r fenter Yn ôl i Fywyd Cymunedol wedi'i chreu yn dilyn ymateb cymuned i gefnogi pobl a allai fod yn ei chael hi’n anodd gadael eu cartrefi.  Mae pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain wedi dweud wrthym am eu pryderon ynghylch colli sgiliau a galluoedd corfforol a gwybyddol, sydd wedi eu dychryn ynglŷn â mynd allan eto.  Dyma enghraifft gyfannol o sut y gall y gymuned ddod at ei gilydd i gefnogi a galluogi pobl i fynd yn ôl i fywyd cymunedol.”

Dywedodd Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapiau a Gwyddor Iechyd:  “Rwy'n falch iawn o weld bod gwahanol sefydliadau'n cydweithredu i fynd i'r afael â'r anawsterau real iawn sy'n wynebu rhai o'n pobl sy’n fwy agored i niwed yn y gymuned sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig. Rhaid i ni gofio nad y rhai sydd wedi cael COVID-19 yn unig sydd wedi’i chael hi’n anodd. Bydd teuluoedd ag anwylyd sydd â dementia yn gwybod pa mor anodd fu'r flwyddyn ddiwethaf. Datblygwyd yr adnodd hwn gan gymunedau yn dod at ei gilydd ac rydym yn falch iawn ein bod wedi bod yn rhan o hyn. Gyda'n gilydd, byddwn yn gryfach ac yn fwy gwydn.”

Mae rhagor o wybodaeth am yr adnoddau Yn ôl i Fywyd Cymunedol ar gael yma: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/gwelliant-cymru/rhaglenni-gwelliant-cymru/iechyd-meddwl/gofal-dementia/yn-ol-i-fywyd-cymunedol