Mae ein timau Ymwelwyr Iechyd yn darparu gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus gyda chyngor, cefnogaeth ac ymyriadau arbenigol i deuluoedd a phlant ar draws Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Mae Ymwelwyr Iechyd yn cefnogi iechyd a lles plant a’u teuluoedd o’r cyfnod cyn-geni hyd at 5 oed trwy gynnig gwybodaeth a chyngor i rieni. Mae'r cyngor hwn yn cynnwys cymorth cyn-geni, lles corfforol ac emosiynol plant, y rhaglen imiwneiddio plant, cymorth magu plant, maeth babanod a phlant , iechyd a chynnydd datblygiadol. O fewn ein timau Ymwelwyr Iechyd, mae gennym Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Meithrin Cymunedol, Ymgynghorwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ymwelwyr Iechyd Arbenigol yn y gymuned.
Mae'r tîm Ymwelwyr Iechyd yn gweithio'n agos gyda Bydwragedd, Meddygon Teulu, Nyrsys Practis, y Tîm Paediatrig Cymunedol, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Therapïau, Nyrsys Ysgol, Gweithwyr Cymdeithasol, cyn-ysgolion, meithrinfeydd, ac asiantaethau eraill i sicrhau bod holl anghenion unigol eich plentyn yn cael sylw.
Mae’r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd yng Nghymru yn cael ei arwain gan Raglen Plant Iach Cymru (Trosolwg o Raglen Plant Iach Cymru), sy’n nodi’r cysylltiadau arfaethedig y gall plant a’u teuluoedd eu disgwyl gan eu Hymwelydd Iechyd.
O fewn BIPCTM mae rhaglenni gwahanol ym mhob ardal, felly, gall eich ymweliadau Ymwelwyr Iechyd fod yn wahanol. Y rhain yw: - Dechrau'n Deg a Generic ym Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr a Chymunedau'n Gweithio Gyda'i Gilydd er Iechyd Plant (CWTCH) yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd y tîm Ymwelwyr Iechyd yn darparu cymorth o'r cyfnod cyn-geni a genedigaeth y plentyn hyd at ei flynyddoedd cyntaf yn yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys:
Pwy yw Ymwelwyr Iechyd a beth maen nhw'n ei wneud?
Diwrnod ym mywyd Ymwelydd Iechyd
Gwyliwch y fideo hwn o'r iHV (Sefydliad Ymwelwyr Iechyd) i gael cipolwg ar beth y gall eich Ymwelydd Iechyd ei gynnig
https://vimeo.com/772475131/7057202720
Manylion cyswllt Ymwelwyr Iechyd Lleol
Bydd manylion cyswllt eich Ymwelydd Iechyd teuluol ar flaen y 'Cofnod Iechyd Personol y Plentyn' (Llyfr Coch).